Evo Morales
Evo Morales (Juan Evo Morales Ayma - ganwyd 26 Hydref 1959, Isallavi, Bolifia) oedd arlywydd Bolifia o 2006 hyd 2019, y cyntaf erioed o dras frodorol.[1]
Evo Morales | |
---|---|
Ganwyd | Juan Evo Morales Ayma 26 Hydref 1959 Oruro |
Dinasyddiaeth | Bolifia |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
Swydd | Arlywydd Bolifia |
Taldra | 1.75 metr |
Plaid Wleidyddol | Movement for Socialism |
Gwobr/au | Grand Officer of the Order of the Condor of the Andes, Grand Cross with Collar of the Order of the Sun of Peru, Gwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Order of Augusto César Sandino, Allwedd Aur Madrid, honorary doctor of the Renmin University of China, Distinguished Guest of Mexico City, Llaves de la Ciudad de Mexico, doctor honoris causa from the University of Pau, Q3885462, Urdd dros ryddid, Urdd José Martí |
llofnod | |
Er i fwyafrif bobl Bolifia a miliynau o bobl eraill gwledydd America gyda chefndir tras frodorol, yn dilyn canrifoedd o ragfarn a gormes, prin iawn yw'r bobl gefndir brodorol sydd wedi cyrraedd swyddi uchel.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd mewn pentref mwyngloddio yn nhalaith orllewinol Oruro i deulu o dras Aymara, bu'n fugail llama yn blentyn. Wedi gadael yr ysgol a gwasanaeth milwrol, mudodd ei deulu i ardal Chapare yn nwyrain Bolifia i ffermio. Ymhlith eu cnydau oedd dail coca, cnawd traddodiadol y rhan yno o'r byd ond sydd bellach yn sail i cocaine.
Ar ddechrau'r 1980au daeth Morales yn weithgar yn undeb ffermwyr coca yr ardal, ac ym 1985 fe'i etholwyd yn ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.
Tair blynedd yn ddiweddarach fe'i etholwyd yn brif ysgrifennydd ffederasiwn o undebau ffermwyr coca. Er i lawer o ffermwyr tlawd Boliva fod yn ddibynnol ar dyfu dail coca, o dan bwysau'r Unol Daleithiau, roedd llywodraeth Bolifia yn ceisio atal tyfu coca.
Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau am atal defnydd o cociane yn ei wlad ond gredai llawer o bobl brodolol de America nad oedd dim byd o'i le gyda dail coca sydd wedi cael eu defnyddio'n halaeth am ganrifoedd fel diod debyg i de ac ar gyfer meddyginiaethau gwerinol. Teimlai'r ffermwyr roeddent gael eu cosbi – y fyddin a'r awdurdodau'n ymosod arnynt, yn llosgi eu caeau ac yn eu carcharu - am chwant dinasyddion yr Unol Daleithiau am gyffuriau.
Llywydd Bolifia
golyguArweiniodd Morales brotestiadau i gefnogi hawliau'r ffermwyr coca a phobl frodorol gan achosi nifer fawr o garchariadau gan yr awdurdodau.
Ym 1995 ffurfiwyd undebau ffermwyr coca Bolifia blaid wleidyddol Movimiento al Socialismo - 'MAS' (y gair Sbaeneg am 'mwy') ac fe'i etholwyd Morales yn arweinydd. Enillodd Morales sedd yn Senedd Bolifia ym 1997.
Arweiniodd Morales a MAS protestiadau yn erbyn codi pris dŵr yn nhref Cochabamba a chynlluniau preifateiddio system nwy Bolifia. Arweiniodd y protestiadau i derfysgodd mawr gyda llawer o bobl Bolifia yn credu roedd eu gwlad dlawd wedi dioddef canrifoedd o ecsploetio ac nad oeddent am bolisïau economaidd neo-rhyddfrydol.
Yn 2002 bu'n ymgeisydd MAS ar gyfer etholiadau arlywydd y wlad gan golli i ymgeisydd plaid asgell dde. Yn ei ymgyrch galwodd Morales am daflu asiantau'r U.S. Drug Enforcement Administration o Folivia. Fe'i gondemniwyd gan lywodraeth yr Unol Daleithiau am annog cam-ddefnydd o gyffuriau a throsedd gan fygwth torri cefnogaeth ariannol i Folifia petai Morales yn ennill.[2]
Yn etholiadau 2005 enillodd Morales yn hawdd gyda 54% o'r bleidlais gan ddod yn arlywydd cyntaf Bolifia o dras frodorol.
Llwyddodd lywodraeth Morales lleihau tlodi a chododd gyfyngiadau ar dyfu coca. Codwyd trethi ar bobl gyfoethog y wlad i dalu am welliannau i sail economiadd y wlad. O dan ei arweinyddiaeth mabwysiadwyd cyfansoddiad newydd yn datgan bod Bolifia'n wlad plurinacional (aml-genedl) a bod ieithoedd broodol fel Aymara a Quechua â statws swyddogol a lle yn y system addysg.
Cenedlaetholwyd y diwydiannau nwy ac olew a bu ymdrechion i rannu tiroedd ffermio'n fwy cyfartal.[2]
Gwrthwynebwyd Morales gan bobl gyfoethog a busnes y wlad yn bennaf o ardal ddwyreiniol Santa Cruz a geisiodd cynnal refferendwm i ennill mwy o annibyniaeth i'r rhanbarth o'i rheolaeth. Mae pobl ardal Santa Cruz yn bennaf o dras Ewropead croen-gwyn tra bod Morales a llawer o'i gefnogwyr o dras frodorol.
Cafodd Morales ei feirniadu am erlid gwrthwynebwyr gwleidyddol ac am estyn y cyfnod y gallai fod yn arlywydd gan gael ei ail ethol yn 2009, 2014 a 2019. O dan hen gyfansoddiad Bolifia roedd rhaid i'r arlywydd ildio i berson newydd ar ddiwedd tymor o bum mlynedd.[2][3]
Disodli
golyguAr 20 Hydref, 2019, enillodd Morales 47.1% o'r bleidlais mewn cymal cyntaf etholiad arlywyddol Bolifia. Cafodd y canlyniadau eu beirniadu gan Fudiad Cenhedloedd America gan amau roedd twyllo wedi bod i newid y ffigyrau. Dechreuodd protestiadau ar draws y wlad ac ar 10 Tachwedd, 2019 ymunodd rhai aelodau'r heddlu a'r protestiadau, Fel canlyniad cyhoeddodd pennaeth milwrol Bolifia, Cadfridog Williams Kaliman, dylai Morales sefyll lawr er les pobl Bolivia. Ar 12 Tachwedd, 2019 cyhoeddodd Morales roedd yn derbyn lloches ym Mecsico gan fynnu bod arweinwyr y fyddin yn euog o coup d'état.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.britannica.com/biography/Evo-Morales
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-08. Cyrchwyd 2015-12-20.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/news/world-latin-america-29530286
- ↑ https://www.reuters.com/article/us-bolivia-election-mexico-minister/mexico-says-bolivia-suffered-coup-due-to-military-pressure-on-morales-idUSKBN1XL1S5