Ewyn
Gwrthrych sydd wedi'i ffurfio trwy gaethiwo pocedi o nwy mewn hylif neu solid yw ewyn neu ffôm.[1][2] Mae sbwng bath a'r pen ar wydryn o gwrw yn enghreifftiau o ewyn. Mae ewyn y môr hefyd yn cael ei alw'n brigwyn. Yn y mwyafrif o ewynnau, mae cyfaint y nwy yn fawr, gyda ffilm denau o hylif neu solid yn gwahanu'r pocedi o nwy. Mae ewyn sebon hefyd yn cael ei alw'n trochion, wabling neu wablin yn ne orllewin Cymru, yn trwyth yn y de ddwyrain, ac yn sicion yn y gogledd orllewin.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. Weaire, S. Hutzler, "The Physics of Foams", Oxford University Press, 1999,
- ↑ I. Cantat, S. Cohen-Addad, F. Elias, F. Graner, R. Höhler, O. Pitois, F. Rouyer, A. Saint-Jalmes, "Foams: structure and dynamics", Oxford University Press, ed. S.J. Cox, 2013, ISBN 9780199662890
- ↑ "Geiriadur yr Academi".