Fastidius
Esgob o Frython ac awdur yn yr iaith Ladin oedd Fastidius (fl. 411).
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|
Mae'r hanesydd Lladin canoloesol Gennadius yn cyfeirio at Fastidius yn ei lyfr am Gristnogion cynnar enwog De Viris illustribus. Yn ôl yr hanesydd Fastidius oedd awdur gwaith ar y fuchedd Gristnogol, De Vita Christiana:
- 'Ysgrifennodd Fastidius, un o esgobion y Brythoniaid, i ŵr o'r enw Fatalis, lyfr ar "Y Fuchedd Gristnogol" ac un arall o "Gyngor i Weddwon", ill dau yn iach eu dysgeidiaeth ac yn deilwng i Dduw'.
Mae'r ail lyfr yn dangos dylanwad dysgeidiaeth Pelagius gan geryddu'r cyfoethogion a mynnu tegwch i'r tlawd, ond mae ei awduraeth yn ansicr.
Ffynonellau
golygu- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986)
- Hugh Williams, Christianity in Early Britain (Rhydychen, 1912)