Fatima Whitbread
Mae Fatima Whitbread, MBE (ganwyd Vedad; 3 Mawrth 1961) yn daflwr gwaywffon o Loegr wedi ymddeol. Torrodd record y byd gyda thafliad ym 1986. Enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Rhufain yn 1987.[1]
Fatima Whitbread | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1961 Stoke Newington |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | javelin thrower, hunangofiannydd |
Taldra | 168 centimetr |
Pwysau | 68 cilogram |
Gwobr/au | MBE, Bislett medal, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC |
Chwaraeon |
[2]
Cafodd ei geni yn Stoke Newington. Fe'i magwyd yn bennaf mewn cartrefi plant. Ar ôl plentyndod cynnar anodd, mabwysiadwyd hi gan ei athrawes Margaret Whitbread, hyfforddwr gwaywffon. Fel disgybl ysgol, cafodd ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 1978, lle gorffennodd yn chweched. Wedyn, enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Iau Athletau Ewropeaidd 1979. Pencampwriaethau Athletau'r DU 1990 oedd ei digwyddiad olaf fel cystadleuydd. Enillodd Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ym 1987 a'r Wobr Helen Rollason yn 2023.[3]
Hunangofiant
golygu- Whitbread, Fatima; Blue, Adrianne (1988). Fatima: The Autobiography of Fatima Whitbread. London: Pelham. ISBN 978-0720718560.
- Whitbread, Fatima; Blue, Adrianne (2012). Survivor: The Shocking and Inspiring Story of a True Champion. London: Virgin Books. ISBN 978-0753540961.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Keating, Frank (7 Medi 1987). "Fatima spearheads British victories". The Guardian (yn Saesneg). t. 1.
- ↑ Powell, David (10 Medi 1987). "Whitbread's winter work". The Times. t. 42.
- ↑ "Sports Personality of the Year – Past Winners". BBC Sport (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2007.