Felinwnda
Ardal fechan ym mhlwyf Llanwnda, Gwynedd yw Felinwnda, sydd ar y ffordd yn arwain o Dinas, Llanwnda i Saron. Ceir ond rhyw ychydig o dai, canolfan gwerthu offer amaethyddol, Ysgol a Chanolfan Gymunedol sef Canolfan Bro Llanwnda a agorwyd yn 2006.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanwnda |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.101°N 4.278°W |
Gwleidyddiaeth | |
Mae Ysgol Felinwnda yn bodoli ers yr 1890au, a'r prifathro cyntaf oedd yr haneswr o Rostryfan, Gilbert Williams. Ef oedd un o sefydlwyr Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
Agorwyd yr ganolfan, Canolfan Bro Llanwnda yn 2006 ar safle cwt y Ffermwyr Ifanc a oedd wedi cau rhai blynyddoedd ynghynt. www.canolfanbrollanwnda.com. Mae'r ganolfan yn ganolfan gymunedol i ardal gwledig eithaf eang, yn cynnwys Llanfaglan, Bontnewydd, Ffrwd Cae Du, Dinas, Dolydd, Tai Lon, Bethesda Bach, Rhos Isaf, Llandwrog, Dinas Dinlle, Chatham a Saron
Yr enw
golyguGyferbyn a'r ysgol oedd y Felin, neu Melin Pengwern ar y cychwyn. Daw Wnda o Sant Gwyndaf, ble mae eglwys Sant Gwyndaf tua milltir i ffwrdd ger stesion Dinas.