Fferi Gosport

gwasanaeth fferi

Gwasanaeth fferi yw Fferi Gosport sy'n gweithredu rhwng Gosport a Portsmouth yn Hampshire, de Lloegr. Yn 2018, gweithredwyd y gwasanaeth gan Gosport Ferry Ltd, is-gwmni o'r Portsmouth Harbour Ferry Company plc, ei hun yn  eiddo i is-gwmni o FIH group plc, ar ôl iddo gael ei gymeryd drosodd yn 2004.

Fferi Gosport
Math
gwasanaeth fferi
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau
Diwydianttwristiaeth
Sefydlwyd1883
PencadlysGosport
Lle ffurfioGosport
Gwefanhttp://www.gosportferry.co.uk Edit this on Wikidata

Sefydlu golygu

Crëwyd y cwmni sy'n gweithredu fferi Gosport yn 1883, fel y Port of Porstmouth Steam Launch & Towing Compay, gan ei wneud yn un o'r gwasanaethau fferi hynaf yn y DU. Yn 1963, cymerodd drosodd y Gosport & Portsea Watermen's Steam Launch Company, a sefydlwyd yn 1875 gan y Watermen, sydd wedi gweithredu llongau fferi ar y llwybr ar hyd y canrifoedd. Roedd y Watermen wedi mwynhau hawliau a ddiogelwyd rhwng 1603 a 1840, i weithredu gwasanaeth fferi i drigoloion Gosport.

 
Spirit of Gosport
 
Amserlen Fferi Gosport

Yn 1840, cyflwynnwyd fferi stêm gadwyn,[1] i ddyluniad tebyg i'r hyn oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Woolston. Daethpwyd a'r fferi stêm gadwyn i ben yn 1959.

Buddsoddi a chyfranddaliadau golygu

Yn 2004 fe gwblhawyd meddianiaeth gelyniaethus gan Falkland Islands Holdings, gwerth £7.5 miliwn. Un o brif ddadleuon y gwrthwynebwyr oedd "os bydd y cwmni'n mynd i ddwylo un cyfranddaliwr, byddai prisiau'n codi a'r buddsoddiadau yn y fferïau'n disgyn".[2] Ar 10fed o Ragfyr  rhyddhaodd Falkland Island Company ddatganiad yn cyhoeddi fod ganddynt tros 51% o gyfanswm y cyfranddaliadau a nodwyd telerau ar gyfer prynu'r gweddill.[3]

 
Spirit of Portsmouth
Enw'r Fferi  Adeiladwyd Mewn gwasanaeth ers Gwybodaeth
Harbour Spirit 2014 2015 Harbour Spirit yw'r aelod mwyaf newydd o'r fflyd a lansiwyd ym Mai 2015. Mae'n debyg o ran maint i'r Spirit of Gosport, yn cario hyd at 300 o deithwyr, ac yn cynnwys mwy o gyfleusterau modern, gwell storio beiciau, a mwy o seddi cysgodol na'r cyhchod eraill.
Spirit of Portsmouth 2005 2005 Spirit of Portsmouth yn yw'r ail long mwyaf newydd y fflyd. Mae'r dec uchaf wedi ei orchuddio, a bar, felly mae fel arfer yn gyfyngedig i fordeithiau cruise; mae'r llong hefyd yn gweithredu ar y gwasanaeth fferi. Paentiwyd Ysbryd o Portsmouth yn yr un lliwiau a llongau eraill Fferi Gosport.
Spirit of Gosport 2001 2001 Ysbryd Gosport Adeiladwyd yn 2001; hon yw fferi hynaf y fflyd. Fe'i paentiwyd yn yr un lliwiau a llongau eraill Fferi Gosport, a'r un dyluniad (fel y Spirit of Portsmouth), ond heb do ar yr ail lawr. Yn ystod ei fisoedd cyntaf yn y gwasanaeth, roedd yn rhedeg ochr yn ochr â dau Queens oherwydd problemau cychwynnol.

Fflyd presennol golygu

Ar feddiannu'r cwmni yn 1963, newidiwyd ei enw i'r Portsmouth Harbour Ferry Company (PHFC) (plc ers 2001).[4] Yn ogystal â Gosport Ferries Cyf a buddiannau eraill  cysylltiedig, mae PHFC hefyd yn berchen ar Clarence Marine Engineering Cyf, sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw ar gyfer  llongau fferi yn ogystal â gwasanaethau peirianneg morol mwy cyffredinol. Fe ymgorfforwyd Gosport Ferries Ltd  yn 1988, yn gwmni cofrestredig 2254382;[5] ac fe ymgorfforwyd Clarence Marine Engineering  yn 1987, cwmni cofrestredig 2139067.[6] Mae'r naill gwmni'n ddi-fasnach ac mae ei swyddfa gofrestredig yn wedi ei leoli yn South Street, Gosport, prif swyddfeydd ar gyfer Portsmouth Harbour Ferry Company Cyf plc, cwmni gofrestredig 18751.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. South Coast Railways – Portsmouth to Southampton. Vic Mitchell and Keith Smith. ISBN 0-906520-31-2.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2017-12-27.
  3. http://www.fihplc.com/download/10Dec04.pdf
  4. A Brief History of Portsmouth Harbour Ferries
  5. "Gosport Ferries Ltd company information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-05. Cyrchwyd 2017-12-27.
  6. "Clarence Marine Engineering company information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-30. Cyrchwyd 2017-12-27.
  7. "Portsmouth Harbour Ferry Company Ltd plc company information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-18. Cyrchwyd 2017-12-27.