Ffesant euraid

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Ffesant Euraid)
Ffesant euraid
Chrysolophus pictus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasianidae
Genws: Chrysolophus[*]
Rhywogaeth: Chrysolophus pictus
Enw deuenwol
Chrysolophus pictus

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Ffesant euraid (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: ffesantod euraid) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Chrysolophus pictus; yr enw Saesneg arno yw Golden pheasant. Mae'n perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae) sydd yn urdd y Galliformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. pictus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia.

Caiff ei fagu er mwyn ei hela.

Fe'i ceir yn ardaloedd mynyddig gorllewin Tsieina, ond mae poblogaethau wedi eu sefydlu eu hunanin mewn rhannau eraill o'r byd.

Mae'r Ffesant yn aderyn gweddol fawr, gyda'r ceiliog yn 90–105 cm o hyd, gyda'r gynffon hir yn gyfrifol am ddwy ran o dair o hyn. Gan fod y ceiliog yn aderyn lliwgar iawn, mae'r rhywogaeth yn boblogaidd mewn casgliadau adar. Nid yw'r iar mor lliwgar, ac mae'n weddol debyg i iar Ffesant cyffredin.

Mae'r Ffesant Euraid yn byw mewn coedwigoedd trwchus, yn enwedig coedwigoedd conifferaidd, ac oherwydd hyn gall fod yn anodd ei weld.Eu prif fwyd yw grawn a phryfed. Adeiledir y nyth ar lawr, ac maent yn dodwy oddeutu ddeg wy. Gwell ganddynt redeg ar hyd y llawr na hedfan, ond gallant hedfan yn dda ac yn gyflym pan fydd rhaid.

Hyd yn diweddar, roedd dwy boblogaeth o'r rhywogaeth yma wedi eu sefydlu eu hunain ar Ynys Môn, ond credir bod y ddwy boblogaeth wedi diflannu bellach.[3]

Teulu golygu

Mae'r ffesant euraid yn perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Petrisen siwcar Alectoris chukar
 
Sofliar frown Synoicus ypsilophorus
 
Twrci llygedynnog Meleagris ocellata
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. (Saesneg) birdforum.net. Adalwyd ar 09 Mai 2012.
  Safonwyd yr enw Ffesant euraid gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.