Ffisioleg
(Ailgyfeiriad o Ffisiolegydd)
Yr astudiaeth o rannau mecanyddol, corfforol a biocemegol organebau byw yw ffisioleg (o'r iaith Roeg φύσις, physis, "natur, dechreuad"; a -λογία, oleg; Saesneg: physiology). Yn draddodiadol, mae ffisioleg wedi ei rannu'n ddau grŵp: ffisioleg planhigion a ffisioleg anifeiliaid ond yr un yw'r hanfodion. Er enghraifft, mae'r hyn rydym wedi'i ddysgu am ffisioleg celloedd burum yn addas ar gyfer celloedd dynol.