Coedwig Clocaenog

(Ailgyfeiriad o Fforest Clocaenog)

Saif Coedwig Clocaenog yng ngorllewin Sir Ddinbych.

Coedwig Clocaenog
Mathcoetir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlClocaenog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.065°N 3.4789°W Edit this on Wikidata
Map
Coedwig Clocaenog
Yng nghanol Coedwig Clocaenog

Mae'n gorchuddio ardal 40 milltir sgwar (100 km²), yn bennaf wedi ei chyfansoddi o goed conwydd meddal. Mae'r goedwig dan reolaeth y Comisiwn Coedwigaeth, planwyd hi yn 1905 ar dir a oedd gynt yn dir gwaun a fferm. Mae'n ardal ucheldir, y rhan fwyaf uwchben 350 medr. Dioddefodd ei gaeaf caletaf yn 1946/1947 pan ddisgynodd eira trwm, mesurodd y gorchudd dros 150 cm o ddyfnder yng Nghlawddnewydd gerllaw, bu gaeaf arall caled yn 1962/1963. Hon hefyd yw cadarnle olaf y wiwer goch yng Nghymru.[1].

Mae'r goedwig yn wych ar gyfer cerdded, mae ganddi nifer o lwybrau clir. Mae pwyntiau uchel sy'n codi uwchben lefel y coed yn cynnig golygfeydd o Eryri a'r Arenig Fawr i'r gorllewin a mynyddoedd Berwyn i'r de, Bryniau Clwyd i'r dwyrain a gweunydd Dinbych i'r gogledd. Mae'r bywyd gwyllt yn cynnwys adar megis y Gylfin Groes sydd wedi addasu'n dda i'r conwydd. Mae hefyd ardal caedig ar gyfer ceffylau gwyllt a sawl esiampl o weddillion hynafol, gan gynnwys o leiaf un cylch gerrig a safle addoli hynafol 'credstone'.

Mae nentydd yn rhedeg drwy'r goedwig a gorweddai Llyn Brenig i'r gorllewin, yno mae rhaeadr ysblennydd.

Datblygiad diweddar yn y goedwig oedd adeiladu fferm wynt yn 2005 gyda 25 tyrbin gwynt, mae cynlluniau ar gyfer adeiladu rhagor o dyrbinau.[2]

Gellir dod o hyd i Croes Rhyd-y-beddau sydd yn adnabyddus am fod yn un o’r enghreifftiau prin o gerrig a chanddi ysgrifen Ladin ac Ogham arni sydd heb gael ei symud i amgueddfa.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-17. Cyrchwyd 2007-10-17.
  2. Windfarm map unveiled for Wales 12 Gorffennaf 2005

Dolenni allanol golygu