Fforio trefol (hefyd hacio to-a-thwnnel; Saesneg: urban exploration, wedi'i dalfyrru fel UE neu urbex) yw fforio strwythurau o waith dyn, fel hen adfeilion neu nodweddion anhysbys o'r amgylchedd gwneuthuredig. Mae ffotograffiaeth a dogfennu hanesyddol yn aml yn rhan o'r gweithgaredd. Tybir bod fforio trefol hefyd yn golygu bod y sawl sy'n fforio yn tresmasu ar eiddo preifat, ond nid dyma'r achos bob amser.[1] Mae fforio trefol weithiau yn cael ei gyfeirio ato fel draenio (ffurf amgen o fforio trefol ble mae'r traeniau yn cael eu fforio), ogofa a dringo trefol, neu hacio adeiladau.

Peintiad golau y tu fewn i hen chwarel galchfaen yn Ffrainc.

Rheol answyddogol fforio trefol yw "Cymrwch ddim byd ond ffotograffau, gadaech ddim byd ond olion traed".

Mae fforio trefol wedi dod yn fwy poblogaidd o ganlyniad i sylw yn y cyfryngau, ar y Discovery Channel, MTV's Fear a gweithgareddau The Arlantic Paranormal Society. Gall natur y gweithgaredd yn gyflwyno nifer o beryglon, gan gynnwys perygl o niwed corfforol ac, os yw'n anghyfreithlon ac/neu heb ganiatad, y posibilrwydd o arestiad a chosb.

Cyfeiridau golygu

  1. Nestor, James (19 August 2007). "The Art of Urban Exploration". San Francisco Chronicle. Cyrchwyd 20 June 2008.

Dolenni allanol golygu