Ffrwd gludiant MPEG

Fformat cynhwysol digidol safonol ar gyfer trosglwyddiad sain, fideo, a Protocol Gwybodaeth System a Rhaglen (Saesneg: Program and System Information Protocol neu PSIP) yw ffrwd gludiant MPEG (ffrwd gludiant, MPEG-TS, MTS neu TS).[1] Mae'n cael ei ddefnyddio mewn systemau darlledu fel DVB, ATSC a IPTV.

Mae ffrwd gludiant yn dynodi fformat cynhwysol sy'n amgáu ffrydiau elfennol ar ffurf pecynnau, gyda nodweddion cywiro gwallau a phatrwm syncroneiddio ar gyfer cynnal integriti y trosglwyddiant pan fydd y sianel gyfathrebu sy'n cario'r ffrwd yn cael ei diraddio.

Er eu bod yn debyg o ran enw, mae ffrydiau cludiant yn wahanol i ffrwd rhaglen MPEG mewn sawl ffordd bwysig: mae ffrydiau rhaglen wedi'i dylunio ar gyfer cyfryngau cymharol ddibynadwy, fel disgiau (e.e. DVDs), tra bod ffrydiau cludiant wedi'u dylunio ar gyfer trosglwyddiad llai dibynadwy, yn enwedig darlledu dros dir neu trwy loeren. Hefyd, gall ffrwd gludiant yn gallu cario nifer o raglenni. 

Mae manylion ffrwd gludiant i'w canfod yn MPEG-2 Rhan 1, Systemau, a oedd ar un adeg yn cael ei adnabod fel safon ISO/IEC 13818-1 neu ITU-T Rec. H.222.0.

Cyfeiriadau golygu

  1. "MPEG-2 Transport Stream". AfterDawn.com. Cyrchwyd 8 June 2010.