Ffrwydrad Ysbyty al-Ahli
ffrwydrad yn Gaza ar 17 Hydref 2023
Ar 17 Hydref 2023, yn ystod Rhyfel Gaza a gychwynnodd y mis hwnnw, bu ffrwydrad yng nghowrt Ysbyty al-Ahli yn ninas Gaza,[1] lle'r oedd miloedd o Balesteiniaid a ddadleolwyd gan y rhyfel yn llochesu.[2] Lladdwyd 471 yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza.[3]
Enghraifft o'r canlynol | ffrwydrad, lladdiad torfol, saethu cyfeillgar, cyrch awyr |
---|---|
Dyddiad | 17 Hydref 2023 |
Rhan o | ymosodiadau gan fyddin Israel ar ysbytai yn ystod Rhyfel Israel-Palesteina yn 2023 a 2024, Genocide allegations in Israel's attack on Gaza, Rhyfel Gaza |
Lleoliad | Ysbyty al-Ahli, Al-Zaytun |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | Llain Gaza |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae anghytundod ynghylch achosiad y ffrwydrad. Dywedodd Hamas, llywodraeth Llain Gaza, y cafodd yr ysbyty ei fomio mewn cyrch awyr gan yr Israeliaid, gan ei alw'n 'drosedd rhyfel'. Yn ôl Israel, achoswyd y ffrwydrad gan roced a daniwyd gan Fudiad Jihad Islamaidd Palesteina.[4] Cefnogodd arlywydd Unol Daleithiau America, Joe Biden, ddehongliad Israel o'r digwyddiad.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brown, Paul; Cheetham, Joshua; Seddon, Sean; Palumbo, Daniele (18 Hydref 2023). "Gaza hospital: What video, pictures and other evidence tell us about Al Ahli hospital blast" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
- ↑ Flemming, Tessa (18 Hydref 2023). "Al-Ahli Arab hospital was sheltering thousands of displaced Gazans when a blast occurred. Here's what we know" (yn Saesneg). ABC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
- ↑ Al-Mughrabi, Nidal; Holland, Steve (18 Hydref 2023). "Biden says Gaza militants appear to be behind hospital blast as protesters vent fury with Israel" (yn Saesneg). Reuters. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
- ↑ "Hundreds feared dead at Gaza hospital as Israel denies strike" (yn Saesneg). BBC News. 17 Hydref 2023. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
- ↑ Evans, Gareth (18 Hydref 2023). "Biden backs Israel's account of deadly Gaza hospital explosion" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.