Ffin sydd yn gwahanu dau aergorff o wahanol ddwysedd yw ffrynt.

Gelwir ardal o wasgedd isel ble mae'r ffrynt gynnes ac oer yn ffurfio yn ddiwasgedd. Mae'r gwynt yn chwythu'n wrthglocwedd o amgylch diwasgedd. Ni cheir ffryntiau, na glaw, mewn gwasgedd uchel gan fod yr aer yn suddo yn hytrach na chodi. Yma, mae'r gwynt yn chwythu gyda chyfeiriad y cloc. Mae antiseiclon yn enghraifft o wasgedd uchel.

Ar fapiau tywydd, dangosir gwasgedd gan isobarau, llinellau sydd yn ymuno pwyntiau o'r un wasgedd. Maent yn cychwyn ar wasgedd isel ac yn codi wrth symud allan o ganol y diwasgedd.

Wrth i ffrynt gynnes agosáu, mae'r cymylau yn tewychu ac yn disgyn, y gwyntoedd yn cryfhau, a gwasgedd yr aer yn gostwng. Ger y ffrynt gynnes mae'r tymheredd yn codi ac mae'n glawio. Yn y sector cynnes cawn tymereddau uwch, cymylau toredig, a chawodydd o fân-lawiad. Ger y ffrynt oer, cawn gwyntoedd cryf iawn a glaw trwm. Wrth i'r ffrynt mynd heibio, mae'r tywydd yn gwella a chawn cyfnodau heulog gyda gwyntoedd oer.

Ffurfir ffrynt achludol pan fo ffrynt oer yn teithio'n gyflymach na ffrynt gynnes. Mewn ffrynt achludol mae'r ffrynt gynnes a'r ffrynt oer yn cyfuno, a chawn tywydd glawiog.

Rhoddai'r enw ffrynt ar y ffenomen dywyddol hon gan feteorolegwyr o Norwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mewn cymhariaeth â'r ffryntiau milwrol yn Ewrop.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Front (meteorology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Mawrth 2020.