Ffwrneisiau
llyfr (gwaith)
Hunangofiant ar ffurf nofel gan y bardd Gwenallt yw Ffwrneisiau: Cronicl Blynyddoedd Mebyd. Fe'i cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer ym 1982 rhyw 14 blynedd wedi marwolaeth yr awdur.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Gwenallt |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | nofel |
Hon oedd nofel olaf Gwenallt. Seilwyd hi ar hanes ei fagwraeth mewn ardal ddiwydiannol ac mae'r hanes yn cynnwys pennod am farwolaeth tad y prif gymeriad (fel ei dad ei hun) a laddwyd gan fetel tawdd yn y gwaith alcam. I bob pwrpas mae hi'n hunangofiant a hanes Cwm Tawe. Roedd y rhan fwyaf o'r llyfr yn barod i'w olygu ond roedd rhaid i'r Athro J. E. Caerwyn Williams gwblhau gweddill y nodiadau, gyda help gweddw Gwenallt, Nel Gwenallt. Ceir rhagair helaeth gan J. E. Caerwyn Williams sy'n olrhain sut y daeth y llawysgrif i olwg y byd.