Fidelio


Mae Fidelio (yn wreiddiol, Leonore, oder Der Triumph der ehelichen Liebe (Leonore, neu Fuddugoliaeth Cariad Priodasol), Op. 72, yw unig opera Ludwig van Beethoven.[1] Cafodd y libreto Almaeneg ei baratoi yn wreiddiol gan Joseph Sonnleithner o'r Ffrangeg gan Jean-Nicolas Bouilly. Bu'r perfformiad cyntaf ar 20 Tachwedd 1805 yn Theater an der Wien yn Vienna. Y flwyddyn yn olynol, fe wnaeth Stephan von Breuning rhoi cymorth i gwtogi'r gwaith o dair act i ddwy. Ar ôl rhagor o waith ar a libreto gan Georg Friedrich Treischke, cafwyd perfformiad cyntaf o'r fersiwn terfynol yn y Käartnertortheater ar 23 Mai 1814. Yn ôl y draddodiad, adnabyddir y ddau fersiwn cyntaf fel Leonore.

Fidelio18140523.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolFidelio edit this on wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1804 Edit this on Wikidata
Genresingspiel, opera Edit this on Wikidata
CymeriadauSecond prisoner, Florestan, Jaquino, Rocco, Don Pizarro, Marzelline, Leonore, Don Fernando, First prisoner Edit this on Wikidata
LibretyddJoseph Sonnleithner, Georg Friedrich Treitschke Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTheater an der Wien Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af20 Tachwedd 1805 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolFidelio Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithSbaen, Sevilla Edit this on Wikidata
Hyd2.5 awr Edit this on Wikidata
CyfansoddwrLudwig van Beethoven Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r libreto, gydag ychydig o ddeialog llafar, yn adrodd stori Leonore: gwarchodwr carchar o'r enw 'Fidelio' sy'n achub ei ŵr Florestan o farwolaeth mewn carchar gwleidyddol. Mae'r gwaith yn debygol o waith oeuvre 'cyfnod canolig' Beethoven, gan ffocysu ar themau o aberthiad, arwriaeth a buddugoliaeth dros ddrwg. Roedd hwn yn ganmoliaethus gyda symudiadau gwleidyddol yn Ewrop y cyfnod, gyda brwydr dros rhyddid mewn nifer o wledydd, yn enwedig chwyldro Ffrainc a gorchfygiad Napoleon Bonaparte yn ystod troad y pedweredd ar bymtheg ganrif. Mae agweddau nodweddiadol yr opera yn cynnwys 'Corws y Carcharorion' (O welche Lust - 'Am lawenydd'), cerdd i ryddid sy'n cael ei chanu gan gorws o garcharorion glweidyddol. Yn ogystal â hwn mae gweledigaeth Florestan o'i wraig Leonore yn dod fel angel i'w achub, a'r olygfa lle mae Leonore yn achub Florestan. Mae'r olygfa derfynol yn dathlu dewrder Leonore gyda chyfraniadau unawdwyr a'r corws bob yn ail.

Hanes cyfansoddi a pherfformio'r 19eg ganrifGolygu

Mae gan Fidelio hanes cyfansoddi hir a chymhleth: roedd tri fersiwn yn ystod gyrfa Beethoven, a chafodd ychydig o'r gerddoriaeth ei hysgrifennu fel opera cynharach ni chafodd ei gwblhau. Mae tarddiad yr opera yn dod o 1803, lle cafodd Beethoven ei gontractio i ysgrifennu opera gan y librretydd a'r impresario Emanuel Schikaneder. Ynghyd â thelerau'r contract oedd llety am ddim ar gyfer Beethoven mewn fflat a oedd yn rhan o theatr Schikaneder, y Theater an der Wien. Cafodd Beethoven libreto gan Schikaneder, Vestas Feuer; er hyn, nid oedd Beethoven yn hoff o'r libreto. Treuliodd tua mis yn cyfansoddi cerddoriaeth ar ei gyfer, ond fe wnaeth rhoi'r gadael iddo ar ôl gweld libreto Fidelio.

Nid oedd yr amser a wnaeth Beethoven dreulio ar Vestas Feuer wedi'i wastraffu'n llwyr, gan wnaeth dau aria pwysig, "'Ha! Welch' ein Augenblick!" Pizarro a'r deuawd 'O namenlose Freude' Leonore a Florestan, ddod o'r gerddoriaeth ar gyfer Vestas Feuer. Parhaodd Beethoven i fyw yn Theater an der Wien ar ôl iddo orffen gwaith ar Vestas Feuer, a chafodd ei ryddhau o'i ofynion gan Schikaneder ar ôl iddo gael ei ddiswyddio fel cyfarwyddwr theatr yn 1804.

Perfformiwyd Fidelio am y tro gyntaf yn 1805 a chafodd ei adolygu ar gyfer perfformiadau hwyrach yn 1806 a 1814. Er ddefnydd Beethoven y teitl Leonore, oder Der Triumph der ehelichen Liebe ('Leonore, neu Fuddugoliaeth Cariad Priodasol'), cafodd y perfformiadau yn 1805 ei adnabod fel Fidelio ar ôl annogaeth y theatr, er mwyn osgoi anrhefn cynulleidfaoedd gyda'r opera 1798 Léonore; ou, L'amour conjugal gan Pierre Gaveaux, a'r opera Leonora (1804) gan Ferdinando Paer. Argraffodd Beethoven y libretto o 1806, a sgôr lleisiol yn 1810 o dan y teitl Leonore. Y draddodiad erbyn heddiw yw i ddefnyddio'r enw Leonore ar gyfer fersiynau 1805 (tair-act) a 1806 (dwy-act) a Fidelio ar gyfer yr adolygiad terfynol yn 1814.

Bu perfformiad cyntaf libreto tair-act Almaeneg Joseph Sonnliethner yn Theater an der Wien ar 20 Tachwedd 1805, gyda pherfformiadau ychwanegol dros y ddwy noson nesaf. Roedd llwyddiant y perfformiadau hyn wedi'i gysgodi gan feddiannaeth y fyddin Ffrengig, ac roedd lawer o'r gynulleidfa wedi'i wneud o swyddogion y fyddin Ffrengig nad oedd gan ddidordeb mewn opera Almaenig. Ar ôl y perfformiad cyntaf, fe wnaeth ffrindiau i Beethoven awgrymu y dylai adolygu'r opera mewn i ddwy act, ac fe wnaeth gyda chymorth ei ffrind Stephan von Breuning. Ysgrifennodd Beethoven agorawd newydd (adnabyddir fel 'Leonore Rhif.3'). Yn y ffurf newydd hon, cafodd yr opera ei berfformio eto ar 29 Mawrth a 10 Ebrill 1806, gan dderbyn derbyniad mwy llwyddiannus. Cafodd perfformiadau eraill eu hatal gan anghydfod rhwng Beethoven a rheolaeth y theatr.

Yn 1814 fe wnaeth Beethoven adolygu'r opera unwaith eto, gan weithio ar libreto Georg Friedrich Treitschke. Cafodd y fersiwn hwn ei berfformio yn y Kärntnertortheater ar 23 Mai 1814, o dan y teitl Fidelio. Ymysg aelodau'r gynulleidfa oedd Franz Schubert 17 oed, wedi gwerthu ei lyfrau er mwyn prynu tocyn i'r perfformiad. Fe wnaeth Beethoven, a oedd yn ddod yn fyddar yn raddol, arwain y perfformiad, wedi'i helpu gan Michael Umlaud, a wnaeth helpu Beethoven yn yr un ffordd yn ystod perfformiad cyntaf y Nawfed Symffoni. Chwareodd Pizarro gan Johann Michael Vogl, a daeth yn adnabyddus am ei gwaith gyda Schubert. Bu'r fersiwn newydd yn llwyddiannus iawn, ac mae Fidelio erbyn hyn yn rhan ganolig y repertoire operatig.

Er mae berinwyr wedi nodi tebygrwydd plot Fidelio i opera Gluck Orfeo ed Euridice - cenhadaeth tanddearol i achub ei ph/bartner priod, gan orfodi'r prif gymeriad i guddio ei emosiynau - nid ydynt yn gwybod os dyma oedd Beethoven neu 'r libretwyr yn ceisio efelychu yn yr opera.[2]

Ni wnaeth unrhyw waith arall Beethoven achosi iddo gymaint o rwystredigaeth a siom. Ffeindiodd y problemau gan ysgrifennu a chynhyrchu opera mor annymunol, ni wnaeth geisio ysgrifennu oepra arall. Mewn llythr i Treitschke dywedodd "Rwyf yn eich sicrhau, annwyl Treitschke, y bydd yr opera hon yn fy ennill coron ferthyr. Fe wnaethoch chi fy achub beth oedd orau o'r llongddrylliad. Oherwydd hwn mi fyddaf wastad yn ddiolchgar i chi."[3]

Ni chafodd y sgôr llawn ei argraffu tan 1826, ac adnabyddir y tri fersiwn fel Opus 72 Beethoven.[4]

Bu perfformiad cyntaf tu allan i Vienna yn Prague ar 21 Tachwedd 1814, gydag adfywiad yn Vienna ar 3 Tachwedd 1822. Cafodd fersiwn dwy-act ei lwyfannu yn Llundain ar 18 Mai 1832 yn Theatr y Brenin, ac yn Efrog Newydd ar 9 Medi 1839 yn Park Theatre.[5]

Hanes perfformio'r 20fed ganrifGolygu

Fidelio oedd perfformiad opera llawn cyntaf Arturo Toscanini i gael ei ddarlledu ar y radio yn yr Unol Daleithiau, dros rhwydwaith NBC ym mis Rhagfyr 1944 gyda'r Cerddorfa Symffoni NBC ac unawdwyr Rose Brampton a Jan Peerce. Cafodd ei rannu i ddau ddarllediad, a chafodd y perfformiadau ei rhyddau gan RCA Victor ar LP a CD.[6]

Fidelio oedd yr opera cyntaf i gael ei berfformio yn Berlin ar ddiwedd yr Ail Ryfer Byd, wedi'i lwyfannu gan y Deutsche Oper o dan arweiniad Robert Heger yn yr unig theatr oedd heb ei difrodi, Theater des Westens, ym mis Medi 1945. Ar y pryd, dywedodd Thomas Mann: "What amount of apathy was needed [by musicians and audiences] to listen to Fidelio in Himmler's Germany without covering their faces and rushing out of the hall!"[7]

Cyn hir ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd a chwymp Natsïaeth, fe ddywedodd yr arweinydd Wilhem Furtwängler yn Salzburg yn 1948:

[T]he conjugal love of Leonore appears, to the modern individual armed with realism and psychology, irremediably abstract and theoretical.... Now that political events in Germany have restored to the concepts of human dignity and liberty their original significance, this is the opera which, thanks to the music of Beethoven, gives us comfort and courage.... Certainly, Fidelio is not an opera in the sense we are used to, nor is Beethoven a musician for the theater, or a dramaturgist. He is quite a bit more, a whole musician, and beyond that, a saint and a visionary. That which disturbs us is not a material effect, nor the fact of the 'imprisonment'; any film could create the same effect. No, it is the music, it is Beethoven himself. It is this 'nostalgia of liberty' he feels, or better, makes us feel; this is what moves us to tears. His Fidelio has more of the Mass than of the Opera to it; the sentiments it expresses come from the sphere of the sacred, and preach a 'religion of humanity' which we never found so beautiful or necessary as we do today, after all we have lived through. Herein lies the singular power of this unique opera.... Independent of any historical consideration ... the flaming message of Fidelio touches deeply. We realize that for us Europeans, as for all men, this music will always represent an appeal to our conscience.[8]

Ar 5 Tachwedd 1955, ailagorodd y Vienna State Opera gyda Fidelio, wedi'i arwain gan Karl Böhm. Bu'r perfformiad yn ddarllediad fyw teledu gan yr ORF yn ystod cyfnod pan oedd dim ond tua 800 o setiau teledu yn Awstria.

Gwelodd noson cyntaf Fidelio yn y Semperoper yn Dresdon ar 7 Hydref 1989 am achlysur penblwydd 40 y DDR (Dwyrain yr Almaen) cyd-ddigwydd gyda gwrthdystiadau yng ngorsaf trên y ddinas. Parhaoedd y cymeradwyaeth ar gyfer 'Corws y Carcharorion' gan dorri ar draws y perfformiad, ac fe wnaeth cynhyrchiad Christine Mielitz ddangos y corws mewn gwisg arferol erbyn y diwedd, gan ddewis eu cynrychioli fel aelodau'r gynulleidfa.[9] Pedair wythnos yn ddiweddarach, ar 9 Tachwedd 1989, fe wnaeth cwymp Mur Berlin gynrychioli diwedd llywodraethiad Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen.

AgorawdauGolygu

Cafodd Beethoven drafferth wrth gyfansoddi agorawd ar gyfer Fidelio, a chyfansoddodd pedwar fersiwn. Roedd ei gais cyntaf ar gyfer y perfformiad cyntaf yn 1805 wedi'i adnabod fel 'Leonore Rhif. 2'. Creodd 'Leonore Rhif. 3' ar gyfer perfformiadau 1806. Mae'r trydydd wedi'i ystyru gan nifer fel y gorau o'r pedwar fersiwn, ond fel symudiad symffonig dramatig iawn cafodd effaith o orlethu'r golygfeydd ysgafnach yn yr opera. Fe wnaeth Beethoven arbrofi gyda cwtogi'r symudiad ar gyfer perfformiad 1808 yn Prague; y gred yw dyma oedd fersiwn 'Leonore Rhif. 1'. Ar gyfer fersiwn 1814 dechreuodd Beethoven o'r dechrau gyda cherddoriaeth newydd, a dyma yw'r agorawd Fidelio.

CymeriadauGolygu

Cymeriad Llais
Florestan, carcharwr tenor
Leonore, ei wraig, wedi'i guddwisgo fel dyn o'r enw 'Fidelio' soprano
Rocco, ceidwad carhcar bas
Marzelline, ei ferch soprano
Jaquino, cymhorthydd i Rocco tenor
Don Pizarro, llywodraethwr y carchar bariton
Don Fernando, gweinidog y Brenin bariton
Dau garcharorion tenor a bas

CrynodebGolygu

Dwy flynedd cyn i ddechrau'r opera, mae'r pendefig Sbaenaidd Florestan wedi ceisio datgelu troseddau pendefig cystadleuol, Pizarro, i'r cyhoedd. Er mwyn dial, mae Pizarro wedi carcharu Florestan yn gyfrinachol yn y carchar lle mae'n llywodraethu. Ar yr un pryd, mae Pizarro wedi lledaenu straeon ffug am farwolaeth Florestan.

Mae gan warchodwr y carchar, Rocco, ferch o'r enw Marzelline, a chymhorthydd, Jaquino, sy'n caru Marzelline. Mae gwraig ffyddlon Flroestan yn drwgdybio ei fod ei gŵr yn dal yn dyw. Wedi'i guddwisgo fel bachgen o'r enw 'Fidelio', mae'n gweithio ar gyfer Rocco. Fel Fidelio, mae'n ennill ffafr Rocco a chariad ei ferch Marzelline, i flinder Jaquino.

Wedi'i orchymyn, mae Rocco wedi bod yn rhoi dogni bwyd i Florestan ac mae'n newynu pan agorai'r opera.

Lleoniad: carchar yn Sbaen, ger Seville.

Cyfnod: 18fed ganrif hwyr.

Act 1Golygu

Mae Jaquino a Marzelline ar eu pen eu hunain yn nhŷ Rocco. Mae Jaquino yn gofyn Marzelline pan y byddai'n cytuno i'w briodi, ond dywedai ni fyddai byth yn ei briodi nawr mae'n caru Fidelio, heb wybod mai Fidelio yw Leonore mewn cuddwisg (Jetzt, Schätzchen, jetzr sind wir allein - 'Nawr, cariad, rydym ar ben ein hunain'). Mae Jaquino yn gadael, ac mae Marzelline yn mynegi ei chariad a'i awydd i briodi Fidelio (O wär ich schon mit dir vereint - 'Os pe bai i wedi uno gydag ef yn barod'). Mae Rocco yn dod i mewn, gan chwilio am Fidelio, sy'n cario cadwynau trwm. Mae Rocco'n canmol Fidelio, ac yn camddeall ei hateb diymhongar fel atyniad cyfrinachol i'w ferch. Mae Marzelline, Fidelio, Rocco a Jaquino yn canu pedwarawd am gariad Marzelline am Fidelio (Mir ist so wunderbar - 'Mae teimlad rhyfeddol yn fy llenwi').

Mae Rocco yn dweud wrth Fideoli unwaith i'r llywodraethwr adael am Seville, y byddai Marzelline a Fidelio yn gallu priodi. Mae'n dweud wrthynt, er hyn, ni fyddant yn hapus heblaw os oes ganddynt arian. (Hat man nicht auch Gold beineben - 'Os nad oes gennych arian'). Mae Fidelio yn galw am Rocco pam nad yw'n gallu helpu i chwilio'r daeardai, yn enwedig oherwydd ei anadl byr wrth ddisgynnu'r grisiau. Mae Rocco yn dweud iddo mae yna ddwnsiwn nad yw byth yn gallu gweld, sy'n gartref i ddyn sydd wedi bod crebachu yno am ddwy flwyddyn. Mae Marzelline yn erfyn ar ei thad i beidio â mynd â Fidelio i'r daeardy i'w gadw o olwg ofnadwy, ond mae Fidelio yn mynnu mynd i weld y lle. Mae Rocco a Fidelio yn canu am ddewrder (Gut, Söhnchen, gut - 'Iawn, boi, iawn'), ac mae Marzelline yn ymuno hefyd.

Mae pob un ond Rocco yn gadael. Clywir ymdeithgan pan ddaw Pizzaro gyda'i gwarchodwyr. Mae Rocco yn rhybuddio Pizarro y bydd y gweinidog yn cynllunio ymweliad annisgwyl i archwilio cyhuddiadau o greulondeb Pizarro. Mae Pizarro yn datgan ni fyddai'n galluogi y gweinidog i weld Florestan sydd wedi'i garcharu, sydd wedi'i feddwl yn farw. Yn lle, mi fyddai Pizarro yn llofruddio Florestan (Ha, welch ein Augenblick - 'Ha! Am foment!'). Fel arwydd, mae Pizarro yn gorhcymyn y bydd trwmped yn cael ei seinio pan ddaw'r gweinidog. Mae'n cynnig arian i Rocco i ladd Florestan, ond mae Rocco yn gwrthod (Jstzt, Alter, jetzt hat es Elie! - Nawr, hen ddyn, mae rhaid brysio!). Mae Pizarro yn dweud y byddai'n lladd Florestan ei hunain yn lle, ac yn gorhcymyn Rocco i balu bedd ar ei gyfer yn llawr y daeardai. Unwaith mae'r bedd wedi'i baratoi, mi fyddai Rocco yn seinio'r larwm, a byddai Pizarro yn dod i mewn i'r daeardy a ladd Flroestan. Mae Fidelio, gan glywed cynllun Florestan, wedi'i chynhyrfu, ond yn gobeithio i achub Florestan (Abscheulicher! Wo eilst du hin? a Komm, Hoffnung, lass den letzten Stern - 'Bwystfil! Lle wyt ti'n mynd ar frys?' a 'Dewch, gobeithiwch, gad i'r seren barhau').

Mae Jaquino unwaith eto yn gofyn Marzelline i'w briodi, ond eto mae'n gwrthod. Mae Fidelio, gan obeithio i ddarganfod Florestan, yn gofyn Rocco i alluogi'r carcharorion i gerdded yn yr ardd a mwynhau'r tywydd braf. Mae Marzelline yn ei ofyn hefyd, ac mae Rocco yn cytuno i dynnu sylw Pizarro pan mae'r carcharorion yn rhydd. Mae'r carcharorion, yn llawn llawenydd gya'r rhyddhad yn canu'n llawen (O welche Lust - 'Am lawenydd'), gan gofio y gallent gael eu dal gan Pizarro, ac yn tawelu.

Ar ôl cwrdd gyda Pizarro, mae Rocco yn dod i mewn ac yn dweud wrth Fidelio y bydd Pizarro yn caniatáu'r briodas, a chaiff Fidelio fynd gyda Rocco ar ei daith o gwmpas y daeardai (Nun sprecht, wie ging's? - 'Siarada, sut aeth hi?'). Mae Rocco a Fidelio yn paratoi i fynd i gell Florestan, gan wybod bydd angen ei ladd a'i gladdu o fewn yr awr. Mae Fidelio yn crynu; mae Rocco yn ceisio anghymell Fidelio rhag ddod, ond mae Fidelio yn mynnu dod. Pan maent yn paratoi i adael, mae Jaquino a Marzelline yn brysio i'w gweld a dweud i Rocco i ffoi, gan fod Pizarro wedi dysgu bod y carcharorion yn rhydd, ac yn wyllt ofnadwy (Ach, Vater, Vater, eilt! - 'O tad, tad, brysia!).

Cyn iddynt allu adael, mae Pizarro yn dod i mewn ac yn gorchymyn esboniad. Mae Rocco, yn meddwl yn gyflym, yn ateb y cafodd y carcharorion wedi cael diwrnod i ddynodi diwrnod enw y Brenin Sbaenaidd, ac yn argymell i Pizarro y ddylai arbed ei blinder ar gyfer y carachwr yn y daeardy. Mae Pizarro yn annog iddo frysio palu'r bedd, ac yn datgan y byddai'r carcharorion yn cael eu cloi mewn unwaith eto. Mae Rocco, Leonore, Jaquino, a Marzelline yn tywys y carcahrorion yn ôl i mewn yn anfodlon. (Leb wohl, du warmes Sonnenlicht - 'Ffarwel, yr heulwen twym').

Act 2Golygu

Mae Florestan ar ben ei hunain yn ei gell, yn bell i ffwrdd yn y daeardai. Mae'n canu'n gyntaf yn ei ffydd yn Nuw, ac yn derbyn gweledigaeth o'i wraig Leonore yn dod i'w achub (Gott! Welch Dunkel hier! - Duw! Am dywyllwch yn fan hyn' a In des Lebens Frühlingstagen - 'Yn nyddiau bywyd gwanwyn'). Mae Flroestan yn cwympo ac yn cysgu, tra bod Rocco a Fidelio yn dod i balu ei fedd. Wrth iddynt gloddio, mae Rocco yn annog Fidelio i frysio (Wie kalt ist es in diesem unterirdischen Gewölbe! - 'Pa mor oer yw hi yn y siambr tanddaearol' a Nur hurtig fort, nur frisch gegraben - 'Dere i weithio a chloddia', 'Deuawd y Torrwyr Beddau'.

Mae Florestan yn deffro, ac mae Fidelio yn ei adnabod ar unwaith. Pan ddysgai Florestan mae'r carchar o dan lywodraeth Pizarro, mae'n gofyn i neges gael ei anfon i'w wraig Leonore, ond mae Rocco yn dweud ei fod yn amhosibl. Mae Flooestan yn erfyn ar Rocco am ddiferyn i'w yfed, ac mae Rocco yn dweud i Fidelio i'w rhoi iddo. Nid yw Florestan yn adnabod Fidelio, ei wraig Leonore mewn cuddwisg, ond mae'n dweud wrth Fidelio y bydd gwobr am y weithred dda iddo yn y nefoedd (Euch werde Lohn in bessem Welten - 'Byddwch yn derbyn gwobr mewn bydoedd gwell'). Mae Fidelio yn erfyn ar Rocco i allu rhoi darn o fara i Florestan, ac mae Rocco yn cytuno.

Mae Rocco yn ufuddhau i'w gorchmynion ac yn seinio'r cloch ar gyfer Pizarro, sy'n ymddangos ac yn gofyn os mae popeth wedi'i baratoi. Mae Rocco yn dweud ei fod yn barod, ac yn gorchymyn i Fidelio i adael y daeardy, ac yn cuddio. Mae Pizarro yn datgelu ei hunaniaeth i Florestan, sy'n ei gyhuddo o lofruddiaeth (Er sterbe! Foch er soll erst wissen - 'Gad iddo farw! Ond yn gyntaf y ddylai gwybod'). Wrth i Pizarro dod allan â dagr, mae Fidelio yn llamu rhwng y ddau gan ddatgelu ei hunain fel Leonore, gwraig Florestan. Mae Pizarro yn ceisio ei lladd, ond mae Leonore yn dod allan â gwn ac yn bygythio ei saethu.

Yna, clywir trwmped, gan ddatgan cyrhaeddiad y gweinidog. Mae Jaquino yn dod i mewn, wedi'i ddilyn gan filwyr, i ddatgan bod y gweinidog yn aros wrth y gatiau. Mae Rocco yn dweud i'r milwyr i hebrwng y Llywodraethwr Pizarro i lan y grisiau. Mae Flroestan a Leonore yn canu i'w buddugoliaeth ac mae Pizarro yn datgan ei fyddai'n dial, tra bod Rocco yn mynegi ei ofn o beth sydd i ddod (Es schlägt der Rache Stunde - 'Mae cloch dialedd yn seinio'). Gyda'i gilydd, mae Florestan a Leonore yn canu deuawd garu (O namenlose Freude! - 'Am lawenydd heb gyfartal!').

Yma, weithiau clywir agorawd 'Leonore Rhif. 3'.

Mae'r carcharorion a phobl y dref yn canu am ddiwrnod o gyfiawnder sydd wedi dod (Heil sei dem Tag! 'Henffych i'r diwrnod!'). Mae'r gweinidog, Don Fernando, yn datgan dyma ddiwedd i 'r ormes. Mae Rocco yn dod i mewn, gyda Leonore a Flroestan, gan ofyn Don Fernando i'w helpu (Wohlan, so helfet! Helft den Armen! - 'Felly, helpa! Helpa'r trueniaid!'). Mae Rocco yn esbonio sut wnaeth Leonore ei chuddwisgo ei hunain fel Fidelio i achube ei ŵr. Mae Marzelline wedi'i synnu gan ei bod mewn cariad gyda Fidelio. Mae Rocco yn disgrifio cynllun lladd Pizarro, a chariwyd Pizarro i ffwrdd i'r carchar. Mae Florestan yn cael ei ryddhau o'i gadwynau gan Leonore, ac mae'r dorf yn canu a dathlu Leonore, achubwr ei ŵr (Wer ein holdes Weib errungen - 'Pwy sydd â gwraig da').

OfferyniaethGolygu

Mae'r gerddorfa wedi sgorio ar gyfer 1 piccolo, 2 ffliwt, 2 obo, 2 glarinet, 2 fasŵn, contrabassoon, 4 corn Ffrengig, 2 drwmped, timpani a llinynnau. Mae hefyd trwmped tu ôl i'r llwyfan.

CyfeiriadauGolygu

  1. Johnson, Douglas (1998). "Fidelio". In Stanley Sadie (ed.). The New Grove Dictionary of Opera. Vol. 2. London: Macmillan, t.182.
  2. "The New Orfeo: an Appreciation", in The Nineteenth Century: a Monthly Review, edited by James Knowles, Volume XXIX, 1891, p. 89 ff.
  3. Klemperer & Anderson 1986, p. Saesneg gwreiddiol: "I assure you, dear Treitschke, that this opera will win me a martyr's crown. You have by your co-operation saved what is best from the shipwreck. For all this I shall be eternally grateful to you."
  4. Johnson 1998, p. 183.
  5. Cairns 2001, p. 43.
  6. "Toscanini conducts Beethoven's Fidelio" Archived 27 December 2013 at the Wayback Machine, details and reviews.
  7. Berthold Hoeckner, Programming the Absolute: Nineteenth-century German Music and the Hermeneutics of the Moment, Princeton University Press, 2002, p. 47.
  8. Khpye, Eonikoe, "Estate and Collection of George and Ursula Andreas", The National Herald, 13 November 2010, accessed 17 April 2011.
  9. "Kurz in Dresden" by Martin Walser, Die Zeit, 20 October 1989 (in German).