Fideo (neu video yn Saesneg) ydy'r dechnoleg o 'ddal' neu 'gymryd' llun symudol gyda sain a hynny yn electronig. Nid yw'r dechnoleg hon yn ddigidol ond yn hytrach yn storio lluniau llonydd - y naill ar ôl y llall - i roi'r argraff o symudiad.

Camera Sony Betacam

Fe'i datblygwyd ar gyfer teledu 'cathode ray', ond datblygodd y dechnoleg yn eitha sydyn. Defnyddir y gair erbyn hyn i ddisgrifio llun symudol digidol ar y cyfrifiadur wrth i hwnnw storio ychwaneg ar gof mwy, prosesydd cyflymach a bandllydan lletach!

"Gwelaf" ydy ystyr y gair Lladin video. Ceir sawl fformat heddiw: DVD, QuickTime, ac MPEG-4; a'r hen dapiau fideo analog, wrth gwrs, gan gynnwys y ddau wreiddiol: VHS a Betamax. Gellir recordio a throsglwyddo fideo ar dâp magnetig pan ddefnyddir PAL neu signalau NTSC. Pan ddefnyddir camerau digidol, y fformat ydy: MPEG-4 neu DV (sef Digital Video).

Ar ddiwedd yr 20ed Ganrif datblygwyd lluniau fideo 3-D (3D-video). Defnyddir chwech neu wyth camera ar gyfer y math hwn; y fformat ydy'r MPEG-4 Rhan 16 AFX (sef Animation Framework eXtension).

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am fideo
yn Wiciadur.