Firestarter (ffilm)
Ffilm ffuglen wyddonol o 1984 sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Stephen King yw Firestarter. Mae'r plot yn ymwneud â merch ifanc sy'n datblygu pyrokinesis a'r asiantaeth lywodraethol gyfrinachol sy'n ceisio ei rheoli hi. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Mark L. Lester, ac mae'n serennu Drew Barrymore a David Keith. Ffilmiwyd yn ac o gwmpas Wilmington, Chimney Rock, a Lake Lure, Gogledd Carolina.
Cast
golygu- Drew Barrymore fel Charlie McGee, merch â pyrokinesis
- David Keith fel Andy McGee, tad Charlie
- George C. Scott fel John Rainbird
- Freddie Jones fel Dr Joseph Wanless, a oedd yn arwain yr arbrawf gwreiddiol
- Heather Locklear fel Vicky Tomlinson McGee, gwraig Andy, mam Charlie
- Martin Sheen fel Capten "Cap" Hollister, pennaeth yr Adran Gudd-wybodaeth Wyddonol
- Moses Gunn fel Dr Pynchot
- Art Carney fel Irv Manders, ffermwr sy'n cynorthwyo'r McGees
- Louise Fletcher fel Norma Manders, gwraig Irv
- Jack Magner fel milwr ifanc