Flags of the World (gwefan)

adnodd a gwefan ar faneri a banereg

Mae Flags of the World, a adnebir hefyd gan ei llythrenw FOTW, yn rwydwaith banereg sy'n weithredol ar y Rhyngrwyd. Mae wedi bod yn aelod o Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Baneregol ers 2001.[1] Mae'n cynnal gwefan sy'n ymroddedig i fanereg, y mwyaf helaeth ar y pwnc hwn ar y rhyngrwyd, a rhestr e-bost gysylltiedig lle gall aelodau'n anfon eu cydweithrediadau.

Flags of the World
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, gwefan Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolInternational Federation of Vexillological Associations Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fotw.info/flags/index.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir

golygu

Ffurfiwyd FOTW ym 1993 fel grŵp trafod gan Giuseppe Bottasini, peiriannydd Eidalaidd oedd â diddordeb mawr yn hanes a datblygiad baneri. Y flwyddyn ganlynol sefydlwyd y wefan ei hun. Ym 1998, cymerwyd yr awenau gan Rob Raeside fel cyfarwyddwr.[2] Yn fwy diweddar, creodd Edward Mooney Jr. grŵp Facebook cysylltiedig, oedd â mwy na 15,200 o aelodau ym mis Medi 2024.

Cennad y Rhwydwaith

golygu
 
palet lliw FOTW

Gwefan FOTW yw prif gyrriant y mudiad. Mae mynediad am ddim iddo. Mae'r wefan yn casglu baneri cyfredol ac haneyddol gwledydd neu diriogaethau, dinasoedd a sefydliadau eraill, gan ddangos y dyluniadau ac, fel rheol, peth o hanes a chefndir y baneri.[3] Byddant yn casglu gwybodaeth am eu tarddiad, defnydd, fersiynau, symbolaeth, ac ati. Mae hefyd yn cynnwys geiriadur baneriaeth. O fis Medi 2024, bu'r porth yn cynnwys dros 84,000 tudalen a 198,000 o ddelweddau baneri. Mae'r cynrychioliadau graffig mewn fformat GIF, gyda phalet wedi'i gyfyngu i 32 lliw.[4]

Gweinyddu

golygu

Saesneg yw'r iaith a ddefnyddir; mae deunyddiau a gyfrannir gan aelodau mewn ieithoedd eraill yn cael eu cyfieithu gan y golygyddion. Mae cyfran nodedig o gyfranwyr mewn Portiwgaleg, Ffrangeg, Iseldireg a Rwsieg.

Sefydliad di-elw yw Flags of the World. Rheolir y porth a'r rhestr bostio gan wirfoddolwyr, a ceir 21 o olygyddion y wefan[5] a Rhestrfeistr gyda dau gynorthwyydd ar gyfer y rhestr bostio.

Cynlluniwyd baner 'Flags of the World' gan Mark Sensen ac fe'i dewiswyd gan bleidlais o aelodau'r rhestr. Fe'i mabwysiadwyd ar 8 Mawrth 1996. Mae ei symbolaeth, yn ôl Sensen, fel a ganlyn: mae gwyn yn symbol o heddwch a glas yn cynrychioli cynnydd. Y chwe seren yw'r lliwiau a ddefnyddir fwyaf mewn baneri ac mae eu trefniant cymharol yn cynrychioli'r rhyngrwyd.[6]

Oriel o Faneri FOTW

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Current Memebers of FIAV". Flags of the World. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
  2. "History of FOTW". Flags of the World. Cyrchwyd 24 Mai 2016.
  3. "Welcome to Flags of the World". Flags of the World. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
  4. "Colour Guide FOTW". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-14. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
  5. "FOTW Editorial Staff". Flags of the World. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
  6. "FOTW Official Flag". Flags of the World. Cyrchwyd 19 Medi 2024.

Nodyn:Eginyn baneri