Florence Luscomb
Ffeminist Americanaidd oedd Florence Luscomb (6 Chwefror 1887–13 Hydref 1985) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel pensaer benywaidd o Massachusetts a swffragét. Roedd yn un o 10 o fenywod cyntaf a raddiodd yn y Massachusetts Institute of Technology.[1]:123-125
Florence Luscomb | |
---|---|
Ganwyd | 1887 Lowell |
Bu farw | 1985 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, swffragét |
Magwraeth
golyguGaned Luscomb yn Lowell, Massachusetts, yn ferch i Otis a Hannah Skinner (neé Knox) Luscomb.[2] Roedd ei thad yn arlunydd aflwyddiannus a'i mam yn freuddwydiwr ymroddedig a gweithredwr dros hawliau menywod. Pan oedd Florence yn flwydd oed, gwahanodd ei rhieni a symudodd gyda'i mam i Boston, tra arhosodd ei brawd hŷn Otis Kerro Luscomb gyda'u tad.[2] Fel plentyn yn Boston, aeth gyda'i mam i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd dros hawliau merched, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio, ac ar un adeg clywodd Susan B. Anthony yn siarad, mewn cyfarfod. Daeth yn ymgyrchydd brwd, gan ddechrau drwy werthu papur newydd dros etholfraint, ar balmant y stryd.[3]:147–148[4][5]
Graddiodd mewn pensaernïaeth. Daeth Luscomb yn bartner-busnes iddi, mewn cwmni pensaernïol a oedd yn eiddo eiddo i'r merched, cyn i waith ddod yn brin oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Oherwydd diffyg gwaith yn y cyfnod hwn, ymrodd yn llwyr i waith mudiad etholfraint y merched, gan ddod yn arweinydd amlwg yn Massachusetts.
Ymgyrchu
golyguYmunodd gyda Chynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid a daeth yn ysgrifenyddes y Boston Equal Suffrage Association for Good Government cyn gweithio'n llawn amser i'r League of Women Voters a'r Women's International League for Peace and Freedom.
O 1911 ymlaen, ystyriodd ei hun yn ddinesydd y byd, gan deithio i genhedloedd ar draws Ewrop ac Asia ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd. Roedd ei safbwyntiau gwleidyddol wedi'u datblygu'n dda ac yn eithaf unigryw.
Ar ôl marwolaeth ei mam yn 1933, etifeddodd Luscomb ddigon o arian fel y gallai roi ei hamser yn llawn i weithredu gwleidyddol. Safodd am swyddi cyhoeddus bedair gwaith.[2] Y cyntaf oedd ei hymgais i fod yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Boston, yn 1922. Safodd mewn etholiad ar gyfer y Gyngres ym 1936 ac eto yn 1950, ac ar gyfer swydd llywodraethwr yn 1952, ond ymgyrchoedd protest oedd y rhain, yn bennaf.
Ysgrifennodd daflen yn gwrthwynebu Rhyfel Fietnam yn gynnar iawn, a byddai'n cynghori rhai o sefydlwyr y mudiad ffeministaidd Americanaidd yn ddiweddarach, gan eu hannog i gynnwys y tlodion a'r merched du.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Allaback, Sarah (2008). The First American Women Architects. University of Illinois. ISBN 0-252-03321-3.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Biography". Luscomb, Florence, 1887-1985. Papers of Florence Luscomb, 1856-1987: A Finding Aid. Radcliffe Institute, Harvard University. Awst 1989. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-03. Cyrchwyd 6 Chwefror 2017.
- ↑ Vetter, Herbert F. (2007). Notable American Unitarians 1936 to 1961. Lulu.com. ISBN 0-615-14784-4. Unknown parameter
|subscription=
ignored (help) - ↑ Dyddiad geni: "Florence Luscomb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Florence Luscomb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.