Fersiwn Americanaidd Eau de Cologne, neu Ddŵr Cwlen ydy Florida Water (Cymraeg answyddogol: Dŵr Florida). Mae ganddo fe'r un sail sitrws â Dŵr Cwlen, ond mae ganddo fe fwy o oren melys (yn hytrach na lemon a neroli sy yn y Dŵr Cwlen gwreiddiol), ac yn ychwanegu nodiadau sbeislyd sy'n cynnwys lafant a chlof.[1] Mae'r enw yn cyfeirio at Ffynnon yr Ieuenctid chwedlonol, a honnir iddo leoli yn Florida, yn ogystal ag arogl "blodeuog" y persawr

Florida Water
Enghraifft o'r canlynolPersawr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerdyn masnach Lanman & Kemp yn hysbysebu Florida Water, 1881.

Yn yr Americâu golygu

Yn ôl y dalwyr nod masnach cyfredol, Lanman & Kemp Barclay,[2] cyflwynwyd Florida Water gan y peraroglydd Dinas Efrog Newydd (a sylfaenydd o'r cwmni gwreiddiol) Robert I. Murray, ym 1808. Ym 1835, ymunodd David Trumbull Lanman â Murray a daeth y cwmni yn Murray & Lanman, wedyn David T. Lanman and Co., ac wedyn Lanman & Kemp ym 1861. Yn ôl y cwmni, bellach o dan enw Murray & Lanman, mae ei gynnyrch yn defnyddio'r fformiwla 1808 gwreiddiol, a bod y label cyfredol heb newid llawer ers y fersiwn 1808 gwreiddiol.

Cyfeiriadau golygu

  1. American Druggist and Pharmaceutical Record - 1902, t. 280
  2. "Lanman & Kemp-Barclay & Co., Inc. - Adran hanes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-18. Cyrchwyd 2012-04-09.