France Daigle
Awdures o dras Acadiadd o New Brunswick, Canada, yw France Daigle (ganed 18 Tachwedd 1953).n
France Daigle | |
---|---|
Ganwyd | 18 Tachwedd 1953 Moncton |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, dramodydd, llenor, bardd |
Gwobr/au | Prix littéraire du Gouverneur général |
Bywgraffiad
golyguCafodd France Daigle ei geni yn 1953 ym Moncton, yn ne-ddwyrain New Brunswick[1].
Derbyniodd radd baglor yn y celfyddydau o Brifysgol Moncton yn 1976. Roedd hi'n newyddiadurwraig gyda'r papur dyddiol L'Evangeline o 1973 i 1977. Y cyfnodolyn hwn yw pwnc y nofel 1953: chronique d'une naissance annoncée ("1953: cronicl genedigaeth wedi'i darogan), a gyhoeddwyd ym 1995.
Mae wedi cyhoeddi dwsin o lyfrau ers cyhoeddi ei llyfr cyntaf, Sans jamais parler du vent ("Heb fyth drafod y gwynt"), gyda Éditions d'Acadie, Moncton, ym 1983. Mae chwech o'i nofelau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg. Mae wedi ennill sawl gwobr: Pascal-Poirier (1991), Prix Éloizes (1998 a 2002), Ffrainc-Acadie (1998), Prix Antonine-Maillet Acadie-Vie (1999) a Prix du Gouverneur général (2012).
Crëodd y cyfarwyddwr Jean Marc Larivière y ffilm fer Effractions ("Torri mewn") o'r llyfr La Vraie Vie. Dangoswyd gyntaf fel rhan o ŵyl ryngwladol y cinéma ffrangeg ei iaith yn Acadie yn 2014.
Gweithiau cyhoeddedig
golygu- Pour sûr ("Yn sicr"), Boréal (2011)
- Petites difficultés d'existence ("Anawsterau bach bodolaeth"), Boréal (2002)
- Un fin passage ("Darn Cain", Boréal (2001)
- Pas pire ("Ddim rhy ddrwg"), Éditions d'Acadie (1998), Boréal (2002)
- 1953. Chronique d’une naissance annoncée ("1953. Cronicl genedigaeth wedi'i darogan"), Éditions d'Acadie (1995)
- La vraie vie ("Bywyd go iawn"), l’Hexagone/Éditions d’Acadie (1993)
- La beauté de l’affaire. Fiction autobiographique à plusieurs voix sur son rapport tortueux au langage ("Harddwch y peth: ffuglen hunangofiannol mewn sawl llais ar eu perthynas ingol ag iaith") Éditions nbj/Éditions d’Acadie (1991)
- L’été avant la mort ("Yr haf cyn y farwolaeth") (mewn cydweithrediad gyda Hélène Harbec), Editions du remue-ménage (1986)
- Variations en B et K. Plans, devis et contrat pour l’infrastructure d’un pont ("Amrywiadau yn B a K. Cynlluniau, manylebau a contract ar gyfer seilwaith pont"), Éditions nbj (1985)
- Histoire de la maison qui brûle ("Hanes y tŷ sy'n llosgi") Éditions d'Acadie (1985)
- Film d’amour et de dépendance ("Ffilm o gariad a dibyniaeth") Éditions d'Acadie (1984)
- Sans jamais parler du vent. ("Heb fyth siarad am y gwynt") Éditions d'Acadie (1983)
Dramâu a gyflwynwyd yn y theatr
golygu- Foin (Gwair) (2000) a gyflwynwyr gan Moncton Sable
- Craie (Sialc) (1999) a gyflwynwyd gan Moncton Sable
- Moncton Sable (Tywod Moncton) (1997) a gyflwynwyd gan Moncton Sable