Francis Poulenc

cyfansoddwr a aned yn 1899

Cyfansoddwr Ffrengig oedd Francis Poulenc (7 Ionawr 189930 Ionawr 1963) sy'n nodedig fel un o Les Six.

Francis Poulenc
Ganwyd7 Ionawr 1899 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Condorcet Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, coreograffydd, libretydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDialogues of the Carmelites, La voix humaine, Les biches, Concert champêtre, Organ Concerto, Flute Sonata, Concerto for Two Pianos and Orchestra, Gloria, Stabat Mater, Figure humaine Edit this on Wikidata
Arddullopera, cerddoriaeth glasurol, liturgical music Edit this on Wikidata
Mudiadmodernism, cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd ym Mharis i deulu cefnog yn y diwydiant fferyllol. Dysgodd elfennau cerddoriaeth oddi wrth ei fam, a dechreuodd wersi piano ffurfiol yn 16 oed gyda'r pianydd Catalwnaidd Ricardo Viñes. Fel arall, cyfansoddwr hunanddysgedig oedd Poulenc. Daeth i sylw Erik Satie, beirniad chwaeth Paris, ac ymunodd â Les Nouveaux Jeunes, carfan o gyfansoddwyr modernaidd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mewn cyfeiriad at "y Pump", cyfansoddwyr pwysicaf Rwsia'r 19g, galwai'r Nouveaux Jeunes yn Le Groupe de Six gan y beirniad Henri Collet. Ynghyd â Poulenc, cyfansoddwyr Les Six oedd Georges Auric, Louis Durey, Arthur Honegger, Darius Milhaud, a Germaine Tailleferre.

Gwasanaethodd Poulenc ym Myddin Ffrainc o 1918 i 1921.

Bu farw ym Mharis yn 64 oed.

Rhestr o'i weithiau golygu

Gweithiau dramataidd golygu

Operâu golygu

  • Les Mamelles de Tirésias, opéra-bouffe (1944; Paris, 3 Mehefin 1947).
  • Dialogues des Carmélites, opera grefyddol (1953–56; Milan, 26 Ionawr 1957).
  • La Voix humaine, monodrama ar gyfer soprano (1958; Paris, 6 Chwefror 1959).

Bales golygu

  • La Baigneuse de Trouville and Discours de Général, 2 symudiad ar gyfer y bale ffars Les Mariés de la Tour Eiffel (Paris, 18 Mehefin 1921; cyfansoddwyd y symudiadau eraill gan Auric, Honegger, Milhaud, a Tailleferre).
  • Les Biches, gyda chôr (1923; Monte Carlo, 6 Ionawr 1924).
  • Pastourelle, 9fed symudiad ar gyfer cyd-fale o 11 o symudiadau o'r enw L’Eventail de Jeanne (1927; perfformiad cyntaf yr addasiad cerddorfaol, Paris, March 4, 1929; symudiadau gan Roussel, Ravel, Ibert, Milhaud et al.).
  • Aubade, concerto dawnsluniol ar gyfer piano ac 18 o offerynnau (perfformiad preifat, Paris, 18 Mehefin 1929; perfformiad cyhoeddus, Llundain, 19 Rhagfyr 1929).
  • Les Animaux modèles (1940–41; Paris, 8 Awst 1942).

Cerddoriaeth gerddorfaol golygu

  • Concert champêtre ar gyfer harpsicord neu biano a cherddorfa (1927–28; Paris, 3 Mai 1929).
  • Concerto ar gyfer 2 biano a cherddorfa (Fenis, 5 Medi 1932).
  • 2 marches et un intermède ar gyfer cerddorfa siambr (Paris, 1937).
  • Concerto ar gyfer organ, llinynnau, a thympan (1938; perfformiad preifat, Paris, 21 Mehefin 1939; perfformiad cyhoeddus, Paris, 10 Mehefin 1941).
  • Sinfonietta (1947; Llundain, 24 Hydref 1948).
  • Concerto piano (1949; Boston, 6 Ionawr 1950).
  • Matelote provençale, symudiad o gywaith gan 7 cyfansoddwr, La Guirlande de Campra (1952).
  • Bucolique: Variations sur la nom de Marguerite Long (1954; symudiad o gywaith gan 8 cyfansoddwr).

Cerddoriaeth siambr golygu

  • Sonata ar gyfer 2 glarinét (1918; adolygwyd 1945).
  • Sonata ar gyfer clarinét a basŵn (1922).
  • Sonata ar gyfer corn, trwmped, a thrombôn (1922; adolygwyd 1945).
  • Triawd ar gyfer obo, basŵn, a phiano (1926).
  • Chwechawd ar gyfer piano a phumawd chwyth (1930–32; adolygwyd 1939).
  • Suite française ar gyfer 9 offeryn chwyth, offerynnau taro, a harpsicord (1935).
  • Sonata ffidl (1942–43; adolygwyd 1949).
  • Sonata soddgrwth (1948).
  • Sonata ffliwt (1956).
  • Elegie, er cof am Dennis Brain, ar gyfer corn a phiano (1957).
  • Sarabande ar gyfer gitâr (1960).
  • Sonata clarinét (1962).
  • Sonata obo (1962).

Piano golygu

  • Sonata ar gyfer piano, 4 llaw (1918).
  • 3 mouvements perpétuels (1918).
  • Valse (1919).
  • Suite in C (1920).
  • 6 impromptus (1920).
  • Promenades (1921).
  • Napoli, cyfres deiran (1921–25).
  • 2 novelettes (1928).
  • 3 pièces (1928).
  • Pièce brève sur la nom d’Albert Roussel (1929).
  • 8 nocturnes (1929–38).
  • 15 improvisations (1932–59).
  • Villageoises (1933).
  • Feuillets d’album (1933).
  • LesSoirées de Nazelles (1930–36).
  • Mélancolie (1940).
  • Intermezzo (1943).
  • L’Embarquement pour Cythère ar gyfer 2 biano (1951).
  • Thème varié (1951).
  • Sonata ar gyfer 2 biano (1952–53).
  • Elégie ar gyfer 2 biano (1959).
  • Novelette sur un thème de Manuel de Falla (1959).

Cerddoriaeth leisiol golygu

Canu côr golygu

  • Chanson à boire ar gyfer côr meibion (1922).
  • 7 chansons ar gyfer côr (1936).
  • Litanies à la vièrge noire ar gyfer côr merched ac organ (1936).
  • Offeren mewn G ar gyfer côr (1937; Paris, Mai 1938).
  • Sécheresses, cantawd ar gyfer côr a cherddorfa, ar ôl Edward James (1937; Paris, 1938).
  • 4 motets pour un temps de penitence ar gyfer côr (1938–39).
  • Exultate Deo ar gyfer côr (1941).
  • Salve regina ar gyfer côr (1941).
  • Figure humaine, cantawd ar gyfer côr dwbl (1943).
  • Un Soir de neige, cantawd siambr ar gyfer 6 llais (1944).
  • 2 lyfr o ganeuon Ffrangeg traddodiadol, trefnwyd ar gyfer côr (1945).
  • 4 petites prières de Saint François d’Assise ar gyfer côr meibion (1948).
  • Stabat Mater ar gyfer soprano, côr, a cherddorfa (1950; Strasbwrg, 13 Mehefin 1951).
  • 4 motets pour le temps de Noël ar gyfer côr (1951–52).
  • Ave verum corpus ar gyfer côr merched (1952).
  • Laudes de Saint Antoine de Padoue ar gyfer côr meibion (1957–59).
  • Gloria ar gyfer soprano, côr, a cherddorfa (1959; Boston, 20 Ionawr 1961).
  • 7 répons des ténèbres ar gyfer bachgen soprano, côr dynion a bechgyn, a cherddorfa (1961; Efrog Newydd, 11 Ebrill 1963).

Llais ac offerynnau golygu

  • Rapsodie nègre ar gyfer bariton, pedwarawd llinynnol, ffliwt, clarinét, a phiano (Paris, 11 Rhagfyr 1917; adolygwyd 1933).
  • Le Bestiaire ar gyfer mezzo-soprano, pedwarawd llinynnol, ffliwt, clarinét, a basŵn, ar ôl Apollinaire (1918–19).
  • Cocardes ar gyfer llais, ffidl, cornet, trombôn, drwm bas, a thriongl, ar ôl Cocteau (1919).
  • Le Bal masque ar gyfer llais, obo, clarinét, basŵn, ffidl, soddgrwth, offerynnau taro, a phiano, ar ôl Max Jacob (1932).
  • La Dame de Monte Carlo, monolog ar gyfer soprano a cherddorfa (Paris, 5 Rhagfyr 1961).

Llais a phiano golygu

  • Histoire de Babar le petit éléphant (1940–45; trefnwyd ar gyfer cerddorfa gan Jean Francaix, 1962).

Cylchoedd o ganeuon golygu

  • Le Bestiaire(1919; addasiad).
  • Cocardes (1919; addasiad).
  • Poèmes de Ronsard (1924–25; trefnwyd ar gyfer cerddorfa yn ddiweddarach).
  • Chansons gaillardes (1925–26).
  • Alawon chantés (1927–28).
  • 8 chansons polonaises (1934).
  • 4 chansons pour enfants (1934).
  • 5 poèmes, ar ôl Eluard (1935).
  • Tel jour, telle nuit (1936–37).
  • 3 poèmes, ar ôl de Vilmorin (1937).
  • 2 poèmes, ar ôl Apollinaire (1938).
  • Miroirs brulants (1938–39).
  • Fiançailles pour rire (1939).
  • Banalités (1940).
  • Chansons villageoises (1942; trefnwyd ar gyfer cerddorfa 1943).
  • Métamorphoses(1943).
  • 3 chansons, ar ôl Garcia Lorca (1947).
  • Calligrammes (1948).
  • La Fraicheur et le feu (1950).
  • Parisiana (1954).
  • Le Travail du peintre (1956).
  • 2 mélodies (1956).
  • La Courte Paille (1960).

Caneuon golygu

  • Toréador (1918; adolygwyd 1932).
  • Vocalise (1927).
  • Epitaphe (1930).
  • A sa guitare, ar ôl Ronsard (1935).
  • Montparnasse (1941–45).
  • Hyde Park (1945).
  • Paul et Virginie (1946).
  • Le Disparu (1947).
  • Mazurka(1949).
  • Rosemonde (1954).
  • Dernier poème (1956).
  • Une Chanson de porcerginie (1958).

Cyfeiriadau golygu