Nofel glasurol i blant gan Mary Rodgers ydy Freaky Friday, cyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau ym 1972.

Freaky Friday
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurMary Rodgers Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1972, Ebrill 1972 Edit this on Wikidata
Genrenofel ffantasi Edit this on Wikidata

Addasiadau golygu

Addaswyd y nofel yn ffilm gan Rodgers yn 1976, ac mae'n serennu Barbara Harris a Jodie Foster. Addaswyd yn ffilm deledu Disney ym 1995, yn serennu Shelley Long a Gaby Hoffmann, ynddi mae Ellen ac Annabelle Andrews, yn cael eu cyfnewid gan gadwyn hudol mewn ymateb i'w dymunion i newid lle. Ail-wnaethpwyd y ffilm yn 2003 yn serennu Jamie Lee Curtis a Lindsay Lohan. Newidiwyd enwau'r cymeriadau i Tess Coleman ac Anna Colemanl. Maent yn cael eu cyfnewid gan fisgedi ffawd a roddwyd iddynt gan hen fenyw Tseiniaidd y nos Iau cynt, ar ôl iddi eu gor-glywed yn dadlau ym mwyty ei merch. Ailenwyd Ben yn Harry, ac mae tad y plant wedi marw.

Seilwyd ffilm teledu ar y nofel a ddilynodd Freaky Friday, Summer Switch, yn serennu Robert Klein a Scott Schwartz, ym 1984 fel rhan o gyfres ABC Afterschool Specials.