Gafr yr Ŵyl
Gafr yr Ŵyl
Mae'r Afr Yule, neu Gafr yr Ŵyl yn symbol Sgandinafaidd traddodiadol y credir ei bod wedi tarddu o baganiaeth Norseg ac Almaenig.[1] Mae ei hymddangosiad wedi newid trwy gydol ei hanes; a heddiw yn aml gafr o wellt ydyw.
Nid yw tarddiad y traddodiad yn hysbys, ond un damcaniaeth cyffredin yw y gellir cysylltu Gafr yr Ŵyl â Tanngrisnir a Tanngnjóstr, y geifr a oedd yn tynnu cerbyd Thor, duw'r taranau.
Yn straeon gwerin diweddarach, roedd yr afr yn byw yn y goedwig neu'r bryniau. Pan ddechreuodd tymor y gwyliau, daeth y creadur hwn yn nes ac yn nes at ffermydd; tan iddi fyned i mewn i'r felin, yna'r sied goed ac yna yn hebrwng y coed i mewn i'r tŷ. Roedd Gafr yr Ŵyl hefyd yn gwirio'r plant er mwyn iddynt gael dillad newydd ar gyfer y gwyliau. Yn ogystal, byddai'n cosbi plant nad oeddent yn cyfrannu at y gwaith tŷ neu a oedd allan gyda'r nos. Cafodd plant a oedd yn camymddwyn naill ai eu cipio neu eu twlcio ar eu pennau gan y geifr.
Cyn i Siôn Corn gyrraedd Norwy, dwedir hefyd bod yr afr arbennig hon yn cludo anrhegion Nadolig. Mewn ambell i draddodiad lleol, roedd yn gyffredin i'r afr dderbyn offrwm; er enghraifft, yn rhanbarth Sunnmøreit, credid bod Gafr yr Ŵyl yn cyrraedd ar Noswyl Nadolig ac yn aros am ei swper y tu ôl i'r ffwrn. Os nad oedd yna swper, byddai'r afr yn creu direidi yn yr ystafell fyw.
Gellir cysylltu Gafr yr Ŵyl hefyd â thraddodiad Julebukk[2], pan mae plant yn mynd o gwmpas y tai i ofyn am fisgedi neu ddanteithion. Fodd bynnag, yn hanesyddol, gwnaed hynny yn bennaf gan ddynion ifanc, ac ambell i ddynes. Arweiniwyd y grŵp gan ddyn yn cario ac ysgwyd pen gafr wedi'i wneud o bren. Pan ymwelodd y grŵp hwn â fferm, roedd hi'n arferol rhannu llwyau o uwd a chwrw Dolig gyda hwy, gan ei fod yn cael ei ystyried yn lwc wael am y flwyddyn os nad oedd hynny'n digwydd.
Mae gan y traddodiadau debygrwydd i draddodiadau Mari Llwyd Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ James George Frazer (2012). The Golden Bough (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 328. ISBN 9781108047371.
- ↑ Terry Gunnell (1995). The origins of drama in Scandinavia (yn Saesneg). D.S. Brewer. t. 107. ISBN 9780859914581.