Gareth Ffowc Roberts

mathemategydd o Gymru

Mae Gareth Ffowc Roberts (ganwyd 23 Mai 1945) yn awdur ac yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn ŵr sydd wedi poblogeiddio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ers y 1980au mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y dulliau newydd o gaffael cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Dywed ar ei wefan: "Poblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom."[1]

Gareth Ffowc Roberts
Ganwyd23 Mai 1945 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Swyddathro emeritws Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amCyfri'n Cewri, Mae Pawb yn Cyfrif Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Yn 2010 dyfarnwyd iddo'r Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan yr Eisteddfod Genedlaethol[2] a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro yn 2011, fe'i derbyniwyd i wisg wen er anrhydedd, Gorsedd y Beirdd.[2]

Mae'n gosod posau mathemategol dyddiol ar Twitter ers 2012 yn ogystal â phosau wythnosol ar Radio Cymru ers 2012 ac ar gyfer Radio Wales ers 2014.

Magwraeth a gwaith golygu

Mae'n hannu o Dreffynnon, Sir y Fflint lle derbyniodd ei addysg gynradd ac uwchradd.

Bu'n Ymgynghorydd Mathemateg gyda Chyngor Sir Gwynedd cyn symud i’r Coleg Normal, Bangor ble daeth yn Brifathro’r coleg ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor ac yna'n Athro Addysg yn y brifysgol honno.[2]

Enillodd ei radd Meistr mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen (dosbarth cyntaf dwbl) yn 1967, enillodd ddoethuriaeth mewn Cemeg Ddamcaniaethol o Brifysgol Nottingham yn 1970[2] ac ym Mawrth 2018 ac MEd ym Mhrifysgol Cymru yn 1981. Yn ddiweddarach, fe'i gwnaed yn Gymrodor y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Traddododd ddarlith ar y cyd gyda Dr Rowland Wynne yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 7 Hydref 2015 ar y teitl "Copenhagen a Chymru".[3] Roedd y ddarlith yma'n un o gyfres o ddarlithiau gwyddonol a drefnwyd i gyd-fynd ag arddangosfa "Dirgel Ffyrdd"[4] yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 7 Gorffennaf 2015 a 9 Ionawr 2016.[5]

Cyflogaeth golygu

  • 1996-05 Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
  • 1996-04 Pennaeth Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor
  • 1994-96 Prifathro Coleg Normal, Bangor
  • 1988-93 Prif Ddarlithydd mewn Mathemateg, Coleg Normal, Bangor
  • 1982-88 Ymgynghorydd Mathemateg, Awdurdod Addysg Gwynedd
  • 1981-82 Uwchddarlithydd, Politechnig Cymru
  • 1980-81 Tiwtor Staff, y Brifysgol Agored
  • 1971-80 Darlithydd ac Uwch-ddarlithydd Politechnig Cymru
  • 1970-71 Cymrawd Ymchwil, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru

O ran ei gyfrifoldebau allanol cyfredol perthnasol: bu'n Gadeirydd panel cystadleuaeth fathemategol flynyddol yn Gymraeg ar gyfer ysgolion uwchradd mewn partneriaeth â’r Urdd (1983-) a bu'n olygydd cyfres Gwyddonwyr Cymru / Scientists of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2015–).

Cyhoeddiadau golygu

 
Gareth yn 2020.

Cychwynnodd ei yrfa gydag ymchwil mewn cemeg ddamcaniaethol cyn newid i addysg mathemateg, gan hefyd gwmpasu datblygiadau cwricwlaidd ac adnoddau, gyda phwyslais ar y cyd-destun Cymraeg ac addysg ddwyieithog. Ym maes cemeg ddamcaniaethol cyhoeddodd nifer o erthyglau arbenigol mewn cylchgronau gwyddonol. Mae'r cyhoeddiadau ym maes addysg ac addysg mathemateg yn cynnwys erthyglau niferus mewn cylchgronau athrawon ac adnoddau dosbarth amrywiol, ynghyd â’r canlynol:

  • Roberts, Gareth (2000) Bilingualism and Number in Wales. International Journal of Bilingualism and Bilingual Education 3 (1), 44-56.
  • Roberts, Gareth (gol.) (2002) Addysgu dwyieithog mewn cyrsiau HAGA – Bilingual teaching in ITET courses. ESCalate (Education Subject Centre Advancing Learning and Teaching in Education)
  • Roberts, Gareth a Cen Williams (goln) (2003) Addysg Gymraeg – Addysg Gymreig. Prifysgol Bangor.
  • Roberts, Gareth a W. Gwyn Lewis (goln) Trafodion Addysg – Education Transactions, Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor.

Ers ymddeol mae wedi cyhoeddi ar gyfer cynulleidfa mwy cyffredinol ym maes hanes mathemateg a mathemateg boblogaidd, gan gynnwys:

  • Roberts, Gareth (cyd-olygydd) (2012, 2013) Robert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Roberts, Gareth Ffowc (2012) Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer)
  • Roberts, Gareth Ffowc (2013) Posau Pum Munud (Gwasg Gomer), (2014) Posau Pum Munud 2 (Gwasg Gomer), (2016) Posau Pum Munud 3 (Gwasg Gomer)
  • Roberts, Gareth Ffowc (2016) Count Us In (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Roberts, Gareth Ffowc a Helen Elis Jones (2018, 2019) Posau Bach – Mini Puzzles (Atebol Cyfyngedig)
  • Roberts, Gareth Ffowc (2020, yn y wasg) Cyfri’n Cewri (Gwasg Prifysgol Cymru)

Cyhoeddiadau ar y we golygu

https://theconversation.com/how-a-farm-boy-from-wales-gave-the-world-pi-55917

  • Gareth Ffowc Roberts, Institute of Mathematics and its Applications, cyfraniad yn Gymraeg a Saesneg i wefan gyrfaeodd mewn mathemateg: Y dihafal Robert Recorde a The unequalled Robert Recorde (2016).[6][7]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Menna ac mae ganddo ddau o blant - Llinos, sy'n feddyg teulu yng Nghaerfyrddin ac sydd wedi ymddangos yn rheolaidd ar deledu (cyfres Doctor Doctor a Prynhawn Da), a Huw Meredydd, sy'n gweithio gyda'r BBC ac yn fwy adnabyddus fel y cerddor Huw M.[8]

Llyfryddiaeth golygu

  • Robert Recorde (The Life and Times of a Tudor Mathematician) (Gwasg y Brifysgol; 15 Hyd 2013)[9]
  • Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer 2012) - Trafodaeth ar agweddau cyfoes y Cymry at rifau a rhifo[10]
  • Posau Pum Munud (cyfrol 1 a 2) (Gwasg Gomer 2014) - Pigion o bosau dyddiol a drydarwyd ar Twitter[11]
  • Count Us In (Gwasg Prifysgol Cymru; 2016) - cyfrol Saesneg am le mathemateg yng Nghymru a Chymru o fewn y byd mathemateg

Erthyglau o bwys golygu

Cyfeiriadau golygu