Gel cawod
Sylwedd hylifol sebonllyd a ddefnyddir i olchi'r corff tra'n cael cawod yw gel cawod neu sebon cawod. Ceir geliau cawod ar y farchnad mewn amryw o liwiau ac aroglau.
Enghraifft o'r canlynol | personal hygiene item |
---|---|
Math | disposable product, detergent |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel sylwedd sebonllyd, mae'n bosib i gel cawod stripio'r croen o'i haen wyneb o olewau naturiol, gan sychu'r croen a ffyrnigo cyflyrau croen sych, megis ecsema.[1] Gall geliau cawod persawrus hefyd achosi balanitis[2] a'r llindag mewn dynion.[3] Cynghorir i beidio â defnyddio geliau cawod tra'n dioddef cyflyrau meddygol megis cosi[4] a phlorod,[5] ac i beidio â'u defnyddio ar yr organau rhywiol tra'n dioddef llindag.[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Esmwythyddion: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
- ↑ Balanitis: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
- ↑ Y llindag, dynion: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
- ↑ Cosi: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
- ↑ Cyflyrau'r croen: Plorod. Directgov. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
- ↑ Y llindag, dynion: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.