Agor y brif ddewislen

Gemau'r Gymanwlad 2018 oedd yr unfed tro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Arfordir Aur, Queensland, Awstralia oedd cartref y Gemau gafodd eu cynnal rhwng 4 - 15 Ebrill 2018. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Basseterre, Saint Kitts a Nevis ym mis Tachwedd 2011 gyda Dinas Gold Coast yn ennill y bleidlais gyda 43 pleidlais a 27 pleidlais i Hambantota, Sri Lanca a ddaeth yn ail.

21in Gemau'r Gymanwlad
2018 Commonwealth Games.svg
Dinas Arfordir Aur, Awstralia
Gwledydd gymrodd rhan 71
Campau 19
Seremoni agoriadol 4 Ebrill
Seremoni cau 14 Ebrill
Agorwyd yn swyddogol gan Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
Prif leoliad Stadiwm Carrara
XX XXII  >

Dyma oedd y pumed tro i Awstralia gynnal Gemau'r Gymanwlad.

Uchafbwyntiau'r GemauGolygu

Flora Duffy o Bermuda gipiodd fedal aur cyntaf y Gemau yn y Triathlon i ferched. Dyma oedd medal aur cyntaf Bermuda yng Ngemau'r Gymanwlad ers i Nick Saunders gipio aur yn y naid uchel yn Auckland ym 1990[1][2].

Llwyddodd Fanwatw, Ynysoedd Cook, Ynysoedd Solomon, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia i ennill medal am y tro cyntaf yn hanes Gemau'r Gymanwlad.

Daeth medalau Fanwatw, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia yn yr athletau wrth i Kyron McMaster ennill aur yn y 400m dros y clwydi i'r Ynysoedd Morwynol Prydain[3] a cipiodd Levern Spencer o Sant Lwsia yr aur yn y naid uchel[4]. Cafwyd medalau efydd i Friana Kwevira o Fanwatw yn y gwaywffon T36[5], Thea Lafond o Dominica yn y naid driphlyg i ferched[6].

Llwyddodd Aidan Zittersteijn a Taiki Paniani o Ynysoedd Cook i drechu'r pâr o Malta er mwyn ennill medal efydd yng nghystadleuaeth parau bowlio lawnt a cipiodd Jenly Wini fedal efydd yng nghategori 58 kg codi pwysau i Ynysoedd Solomon[7].

Y codwr pwysau o Seland Newydd, David Liti, gafodd ei urddo â Gwobr David Dixon yn ystod y Seremoni Cloi.[8].

ChwaraeonGolygu

Timau yn cystadluGolygu

Tabl medalauGolygu

Roedd 275 o wahanol gampau yn y Gemau a llwyddodd 43 o wledydd gwahanol i gipio medal gyda'r tîm cartref, Awstralia, yn gorffen ar frig y tabl medalau[12]

 Safle  CGA Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia* 80 59 59 198
2   Lloegr 45 45 46 136
3   India 26 20 20 66
4   Canada 15 40 27 82
5   Seland Newydd 15 16 15 46
6   De Affrica 13 11 13 37
7   Cymru 10 12 14 36
8   Yr Alban 9 13 22 44
9   Nigeria 9 9 6 24
10   Cyprus 8 1 5 14
11   Jamaica 7 9 11 27
12   Maleisia 7 5 12 24
13   Singapôr 5 2 2 9
14   Cenia 4 7 6 17
15   Wganda 3 1 2 6
16   Botswana 3 1 1 5
17   Samoa 2 3 0 5
18   Trinidad a Tobago 2 1 0 3
19   Namibia 2 0 0 2
20   Gogledd Iwerddon 1 7 4 12
21   Bahamas 1 3 0 4
22   Papua Gini Newydd 1 2 0 3
23   Ffiji 1 1 2 4
24   Pacistan 1 0 4 5
25   Grenada 1 0 1 2
26   Bermiwda 1 0 0 1
  Gaiana 1 0 0 1
  Ynysoedd Morwynol Prydain 1 0 0 1
  Sant Liwsia 1 0 0 1
30   Bangladesh 0 2 0 2
31   Sri Lanca 0 1 5 6
32   Camerŵn 0 1 2 3
33   Dominica 0 1 1 2
34   Ynys Manaw 0 1 0 1
  Mawrisiws 0 1 0 1
  Nawrw 0 1 0 1
37   Malta 0 0 2 2
  Fanwatw 0 0 2 2
39   Ynysoedd Cook 0 0 1 1
  Ghana 0 0 1 1
  Ynys Norfolk 0 0 1 1
  Seychelles 0 0 1 1
  Ynysoedd Solomon 0 0 1 1
Cyfanswm (43 o wledydd) 275 276 289 840

Medalau'r CymryGolygu

Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru[13].

CyfeiriadauGolygu

  1. "Flora Duffy of Bermuda wins 1st Commonwealth Games gold". The Washington Post. 2018-04-04.
  2. "Bermuda Gold medals Auckland 1990". Commonwealth Games Federation.
  3. "A year after Hurricane Irma, Kyron McMaster wins BVI's first Commonwealth medal". CNN. 2018-04-12.
  4. "Levern Spencer wins gold at Commonwealth Games". St Lucia Times. 2018-04-14.
  5. "Simbine stuns Blake to win Commonwealth Games 100 metres". Insidethegames.biz. 2018-4-09. Check date values in: |date= (help)
  6. "Thea Lafond wins bronze for Dominica at Commonwealth Games". Dominica News Online. 2018-0410. Check date values in: |date= (help)
  7. "Cook Islands, Solomon Islands and Vanuatu win medals at games". Asia Pacific report.
  8. "David Liti recieves the David Dixon Award for outstanding sporting spirit". Stuff.co.nz. 2018-04-15.
  9. "Beach volleyball to be played at the 2018 Gold Coast Commonwealth Games". 2016-03-08. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Gambia to compete at Gold Coast 2018 after readmitted as CGF member". 2018-03-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Maldives set to miss Gold Coast 2018 after resigning from Commonwealth". 2016-10-14. Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Official medal table". GC2018.
  13. "Cymu yn gorffen yn y seithfed safle ar yr Arfordir Aur". BBC Cymru Fyw. 2018-04-15.

Dolenni allanolGolygu