Y Lan Orllewinol
Y Lan Orllewinol yw'r enw ar un o Diriogaethau Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol ar lan orllewinol Afon Iorddonen, rhwng Israel yn y gorllewin a Gwlad Iorddonen yn y dwyrain. Un o'r symbolau yn erbyn Israel yw merch ifanc o'r enw Ahed Tamimi, a garcharwyd heb dreial yn 2017 am herio plismyn arfog.
![]() | |
Math | tiriogaeth dan feddiant, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | gorllewin ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mahmoud Abbas ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwladwriaeth Palesteina, Tiriogaethau Palesteinaidd ![]() |
Gwlad | Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, Israel, Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Arwynebedd | 5,860 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Israel, Gwlad Iorddonen ![]() |
Cyfesurynnau | 32°N 35.35°E ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Mahmoud Abbas ![]() |
![]() | |

Daearyddiaeth Golygu
Mae'n cynnwys bryniau Judaea a Samaria a rhan o ddinas Jeriwsalem. Mae prif ddinasoedd a threfi'r Lan Orllewinol yn cynnwys Jenin, Nablus, dwyrain Jeriwsalem, Bethlehem, Ramallah, Hebron a Jericho. Ceir hefyd ddinas newydd Rawabi.
Hanes Golygu
Yn rhan o Balesteina yn sgîl yr Ail Ryfel Byd, daeth i feddiant Gwlad Iorddonen ar ôl cadoediad 1949 a sefydlu gwladwriaeth Israel. Cafodd ei meddiannu eto gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod Israel-Arabiaidd (1967).
Gweinyddiad Golygu
Newidiodd polisïau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo cytundeb Oslo II ym 1995 gan Yasir Arafat a Yitzak Rabin. Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ôl eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B. Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad dŵr, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.
Mae Israel wedi codi mur rhyngddi a'r Lan Orllewinol.
Gweler hefyd Golygu
Dolenni allanol Golygu
- (Corëaeg) Fideo: "Israel Soldier - Palestinian Girl" Heddyches Americanaidd o dras Palesteinaidd yn ceisio atal milwyr IDF rhag saethu ar brotestwyr Palesteinaidd yn y Lan Orllewinol.