Gogledd-ddwyrain Fife (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 56°18′57″N 2°57′55″W / 56.31583°N 2.96528°W
Mae Gogledd-ddwyrain Fife yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn ffiniau dinesig swydd Fife. Ceir etholaeth arall o'r un enw - sy'n ethol cynrychiolydd i Senedd yr Alban.
Gogledd-ddwyrain Fife | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Gogledd-ddwyrain Fife yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1983 |
Aelod Seneddol | Wendy Chamberlain Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Nifer yr aelodau | 1 |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Stephen Gethins, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Cipiwyd y sedd gan Wendy Chamberlain ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2019.
Aelod SeneddolGolygu
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
1983 | Barry Henderson | Ceidwadwyr | |
1987 | Menzies Campbell | Rhyddfrydwyr | |
1992 | Y Democratiaid Rhyddfrydol | ||
2015 | Stephen Gethins | SNP | |
2017 | Stephen Gethins | SNP | |
2019 | Wendy Chamberlain | Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015