Gogwydd (gwleidyddiaeth)

Mae gogwydd etholiadol yn dangos maint y newid mewn cefnogaeth pleidleiswyr o naill blaid i'r llall mewn etholiad, fel arfer o un etholiad i'r nesaf, wedi'i fynegi fel canran gadarnhaol neu negyddol. Mae'n rhan o ystadegaeth ble analeiddir perfformiad y pleidiau er mwyn cymharu sut y peidleisiodd y ward, yr etholaeth neu'r wlad gyfan neu unrhyw ranbarth ddaearyddol. Mae'n cael ei ddefnyddio gyda ffigurau cywir ar ôl etholiad yn ogystal ag fel erfyn i ddarogan sut mae'r etholaeth yn mynd i bleidleisio.

Yng ngwledydd Prydain, defnyddir fel arfer y model dwy blaid: ychwanegu twf pleidlais un blaid (fel canran o'r pleidleisiau) i'r golled ym mhleidleisiau'r ail blaid, a rhannu'r swm hwn gyda dau. Er enghraifft, Os yw Plaid Un yn cynyddu ei phleidlais 4% a Phlaid Dau yn colli 5% o'i phleidlais yna dywedir fod y gogwydd yn 4.5% o Blaid Un i Blaid Dau.[1]

Yn Unol Daleithiau America, defnyddir y term "Gogwydd y dalaith" fel arfer i gyfeirio at berfformiad y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr o fewn talaith mewn taleithiau ymylol. Ar y llaw arall, mae "talaith di-ogwydd" yn gyfystyr a sedd saff, gan nad yw'r canlyniad yn newid yn aml.[n 1]

Gogwydd tair plaid neu ragor golygu

Darlunir y gogwydd ar y rhan fwyaf o wefannau fel siart gylch neu graff llinell ar ffurf swingometer ble y darlunir ± x%, ± x%, ± x% ayb. Mae'r dull hwn yn rhagweld y canlyniad terfynol mewn etholiad ble ceir mwy nag un plaid. Pan mae'n cael ei defnyddio cyn cau'r pleidlais yna gall effeithio'n sylweddol ar sut mae'r etholwyr yn pleidleisio a pha ymgeiswyr a etholir.[2]

Enghraifft golygu

Gellir cymharu etholiadau cyffredinol Wcrain: 2006 a 2007:

Gogwydd y Bleidlais yn Etholiadau Cyffredinol Wcrain 2006 a 2007:
   

Mae'r siart yma'n dangos y newid yng nghefnogaeth yr etholwyr i'r 6 prif blaid yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.[3]

Nodiadau a Ffynhonnell golygu

Nodiadau
  1. Fel ym Mhrydain, mae'r UDA hithau'n defnyddio'r system a elwir yn "Gyntaf heibio'r Postyn" fel ei phrif system; mae'r math o system a ddefnyddir yn effeithio'r gogwydd yn fawr.
Ffynhonnell