Goleudy Eilean Glas
Cynlluniwyd Goleudy Eilean Glas gan Thomas Smith ym 1787. Mae’n sefyll ar Sgalpaigh na Hearadh (Ynys Scalpay), un o’r Ynysoedd Allanol Heledd. Trefnwyd y gwaith o greu sail i’r adeilad gan Capten Alex McLeod, perchennog yr ynys a chyraeddwyd uchder o 7 troedfedd erbyn yr haf. Cyrhaeddodd seiri maen o Gaeredin yn 1788, a chwblhawyd eu gwaith erbyn mis Hydref. Gwnaethpwyd gwaith tu mewn yr adeilad gan y saer coed, Archie McVicar o Ogledd Uist. Ychwanegwyd y llusern ym 1789, a daeth y goleudy’n weithredol ar 10 Hydref 1789.
Math | goleudy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.8569°N 6.642°W |
Cod OS | NG2474894722 |
Rheolir gan | Northern Lighthouse Board |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Adeiladwyd y tŵr presennol gan Robert Stevenson yn 1824, yn codi lefel y tŵr i fod yn 73 troedfedd uwchben y môr. Newidiwyd y llusern i un cylchol yn 1852 ac ychwanegwyd seiren niwl ym 1907, yn weithredol hyd at 1987.
Daith y goleudy’n un awtomatig ym 1978.[1]