Gordo eira neu bargod eira yw pan mae ymyl eira ar drum neu grib mynydd ac ar hyd ochrau ceunentydd yn ymestyn allan. Mae'n cael ei ffurfio gan wynt yn chwythu dros doriadau llym yn y tirwedd gan achosi i'r eira yn gasglu ar yr ymyl ac adeiladu allan yn llorweddol. Mae hyn i'w weld gan mwyaf ar ochrau mwyaf serth a chysgodol mynyddoedd.[1] Mae gordoeau yn eithriadol o beryglus a dylid osgoi teithio drostynt ac oddi tanynt.[2] Mae'r perygl ohonynt yn torri yn uwch mewn cyfnodau o gynhesu solar. ac maen nhw'n gallu achosi eirlithriadau mwy.

Gordo eira ar fynydd Aiguille de Bionnassay yn yr Alpau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Wilhelm Welzenbach: Untersuchungen über die Stratigraphie der Schneeablagerung und die Mechanik der Schneebewegengen nebst Schlussfolgerung auf die Methoden der Verbauung, Karlsruhe 1930, Wissenschaftl.
  2. The Mountaineers (2010-08-25). Eng, Ronald C. (gol.). Mountaineering: The Freedom of the Hills (yn Saesneg). Seattle: Mountaineers Books. t. 546. ISBN 9781594854088.