Gorsaf Bŵer Pont Ceunant

Gorsaf bŵer hydro-electrig rhwng pentrefi Abermagwr a Phont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion oedd Gorsaf Bŵer Pont Ceunant. Hon oedd yr orsaf hydro-electrig gyntaf yng Nghymru. Fu’n gweithredu rhwng 1899 a 1903. Fe'i dyluniwyd gan beiriannydd Eidalaidd, Bernardino Nogara, ac fe’i hadeiladwyd gan gwmni o Wlad Belg, y Societé Anonyme Metallurgique o Liège, ar gost o £11,400 yn fuan ar ôl iddynt gymryd drosodd mwyngloddiau Frongoch a Wemyss.[1] Roedd yn rhan o system bŵer trydan newydd ar gyfer y pwll glo, gyda'r nod o gynyddu cynhyrchiant a galluogi trin mwynau gradd isel. Roedd y dwr yn dod o gronfa uwchlaw'r safle ac yn llifo lawr piben 50 cm o ddiamedr ac yn troi olwyn Pelton 400 marchnerth a fedrai gynhyrchu 300 cilowat o drydan. Roedd yno hefyd injan stêm chwe silindr wrth gefn a fyddai wedi ei phweru ā glo. Roedd y trydan yn cael ei gyflenwi i'r mwyngloddfeydd gan ddefnyddio ceblau uwchben.

Gorsaf Bŵer Pont Ceunant
Mathgorsaf bŵer hydro-electrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3517°N 3.9008°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN706743 Edit this on Wikidata
Map

Roedd tua 270 o weithwyr wedi'u cyflogi gan y mwyngloddfeydd ar droad yr 20g, ac mae'n debyg bod nifer ohonynt yn Eidalwyr. Pum mlynedd yn unig y parodd y fenter; caewyd y mwyngloddfeydd yn 1903, diswyddwyd y gweithwyr a gwerthwyd y peiriannau.

Cyfeiriadau golygu


Oriel golygu