Gorsaf reilffordd Cincinnati

Adeiladwyd Gorsaf reilffordd Cincinnati rhwng 1929 a 1933 a chostiodd y prosiect $41 miliwn. Maint yr orsaf yw 287 erw, a chynlluniwyd yr orsaf i ddal 216 o drenau a 17,000 o deithwyr pob dydd[1]. Disodlodd yr orsaf 5 gorsaf arall, yn cynrychioli 7 rheilffordd: Rheilffordd Baltimore ac Ohio, Rheilffordd Cleveland, Cincinnati, Chicago a St Louis, Rheilffordd Ddeheuol, Rheilffordd Pennsylvania, Rheilffordd Norfolk a Gorllewinol, Rheilffordd Louisville a Nashville a Rheilffordd Chesapeake ac Ohio. Roedd trosglwyddo rhyngddynt yn anodd, ac roedd llifogydd yn broblem cyson hefyd. Ffurfiwyd Cwmni Datblygiad Rheilffordd Cincinnati ym 1924, ac wedyn Cwmni Terminal Union Cincinnati ym 1927 er mwyn adeiladu'r orsaf.

Gorsaf reilffordd Cincinnati
Mathgorsaf reilffordd, union station Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol31 Mawrth 1933 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCincinnati Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau39.11°N 84.53781°W Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Rheolir ganAmtrak Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt Deco Edit this on Wikidata
PerchnogaethCity of Cincinnati Edit this on Wikidata
Statws treftadaethNational Treasure Edit this on Wikidata
Manylion
Y Theatr Omnimax

Y penseiri oedd Paul Cret a Roland Wank. Gofynnwyd iddynt gynllunio adeilad Art Deco. Crëwyd peintiadau gan Winold Reiss, a throwyd nhw'n baneli mosaig gan Ravenna Tile. Crëwyd gwaith celf arall gan Pierre Bourdelle, a cherfiwyd dau fasgerfiadau enfawr gan Maxfield Keck.[2]. Gorffennodd gwasanaethau trên ar 28 Hydref 1972, Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus i ddefnyddio'r adeilad, gan gynnwys canolfan siopa, ffurfiwyd 'Cymdeithas Terminal Union' ym 1986 er mwyn chwilio am ffordd amgenach. Ar ôl trafodaethau efo Cymdeithas Hanesyddol Cincinnati ac efo Amgueddfa Hanes Naturiaethol Cincinnati, penderfynwyd creu Canolfan Dreftadaeth yn yr adeilad. Ychwanegwyd llyfrgell Cymdeithas Hanesyddol Cincinnati ac hefyd y Theatr Omnimax[3]

Ailddechreuodd gwasanaeth trenau Amtrak ar 29 Gorffennaf 1991[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan Canolfan Amgueddfa Cincinnati
  2. "Tudalen cynllunio ar wefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-27. Cyrchwyd 2015-02-03.
  3. Tudalen y Ganolfan Dreftadaeth ar wefan Canolfan Amgueddfa Cincinnati; adalwyd 4 Chwefror 2015

Dolen Allanol golygu

Gwefan Canolfan Amgueddfa Cincinnati