Gorsaf reilffordd Esplanade Ryde

Mae Gorsaf reilffordd Esplanade Ryde yn orsaf ar Linell yr Ynys, ar Ynys Wyth. Mae Gorsaf Fysiau Ryde a Therminws Hofranlong Ryde yn gyfagos. Mae 2 blatfform, er defnyddir ond un ohonynt.

Gorsaf reilffordd Esplanade Ryde

Hanes golygu

Agorwyd gorsaf ar y safle ar 29 Awst 1864 ar dramffordd ar hyd Pier Ryde, yn defnyddio ceffylau.[1] Estynnwyd y dramffordd i Orsaf reilffordd Heol St Johns, ond agorwyd yr orsaf bresennol ar 5 Ebrill 1880 gan Gyd-reilffordd Portsmouth a Ryde, a daeth yn rhan o Reilffordd Ddeheuol ym 1923. Caewyd y rheilffordd ar gyfer trydaneiddio rhwng Ionawr a Mawrth 1967, ac eto i ail-drydaneiddio rhwng Ionawr ac Ebrill 2021. Mae cledrau’r dramffordd yn weladwy ar ben gorllewinol platfform un.

Cyfeiriadau golygu

  1. ’Tube Trains on the Isle of Wight’ gan Brian Hardy; cyhoeddwyd gan Capital Transport, 2003