Gorsaf reilffordd Heol King, Seattle
Mae Gorsaf reilffordd Heol King yn orsaf reilffordd yn Seattle, Talaith Washington, yr Unol Daleithiau. Gwasanaethir yr orsaf gan drenau Amtrak (Cascades, Coast Starlight, ac Empire Builder), yn ogystal â threnau lleol Sounder. Mae hefyd tramffordd a rheilffordd ysgafn yno.[1]
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 10 Mai 1906 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Seattle |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 47.5983°N 122.3297°W |
Cod post | 98104 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 7 |
Perchnogaeth | Seattle |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA |
Manylion | |
Agorwyd yr orsaf ar 10fed Mai 1906. Dewiswyd yr orsaf gan Amtrak i fod eu gorsaf yn Seattle ym 1971. Dechreuodd trenau lleol Sounder yn 2000. Prynwyd yr orsaf gan gyngor y ddinas yn 2008 (yn talu $10 amdani) a gwarwyd $50 miliwn i atgyweirio’r orsaf.[2] Mae gan yr orsaf deg o draciau a 4 platfform.