Gorsaf reilffordd Stogumber

Mae Gorsaf reilffordd Stogumber yn orsaf reilffordd tua milltir o’r pentref Stogumber, Gwlad yr Haf. Mae un platfform, gyda adeilad arno. Mae hen ddoc gwartheg yn ymyl y maes parcio. Mae gan yr orsaf caffi. Mae gan y pentref siop, swyddfa’r post a tafarn a neuadd y pentref.

Adeilad yr orsaf
Platfform a lloches i deithwyr

Hanes golygu

Agorwyd yr orsaf ym 1862 fel rhan o Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf wreiddiol. Adeiladwyd lloches i deithwyr ym 1868, ac estynnwyd y platfform ym 1893. Adeiladwyd y doc gwartheg a swyddfa nwyddau. Erbyn hyn mae gan yr orsaf blatfform concrit, ac mae’r sied yn gopi o’r un gwreiddiol. Mae grŵp o wirfoddolwyr yn rhedeg yr orsaf erbyn hyn, sy’n rhan o’r rheilffordd treftadaeth agorwyd ym 1976.[1]

Cyfeiriadau golygu