Gorymdaith Jarrow

Yn Hydref 1936 gorymdeithiodd nifer o bobl ddi-waith o Jarrow i Lundain yn yr hyn a elwir heddiw yn Orymdaith Jarrow. Roedd tlodi mawr mewn sawl rhan o wledydd Prydain yn yr 1930au, gan gynnwys Gogledd-Ddwyrain Lloegr. Cerddodd 200 o ddynion ar yr orymdaith a chymerwyd 26 diwrnod i gyflawni'r dasg. Gyda nhw, roedd deiseb yn galw ar yr awdurdodau i adfer y diwydiant a oedd wedi cau yn 1934, sef Palmers Shipbuilding and Iron Company. Derbyniwyd y ddeiseb gan Dŷ'r Cyffredin, ond ni thrafodwyd ei chynnwys ar lawr y Tŷ. Dychwelodd y gorymdeithwyr adref gan gredu i'w taith fod yn fethiant.

Cerflun efydd: 'Ysbryd Jarrow' gan Graham Ibbeson, a ddadorchuddiwyd yn Stryd Fawr Jarrow yn 2001, yn gofeb i'r rheiny a orymdeithiodd i Lundain.
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgorymdaith brotest Edit this on Wikidata
DyddiadHydref 1936 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Yn ystod y 1920au cafwyd nifer o orymdeithiau tebyg, gyda'r Blaid Lafur a'r TUC yn cadw lled braich oddi wrthynt, gan fod rhai pobl yn cysylltu'r cerddwyr gyda Chomiwnyddiaeth. Galwyd y gorymdeithiau hyn yn 'Orymdeithiau Tlodi' (hunger marches).

Yn y 19g, cloddiwyd glo ger Jarrow a thyfodd y diwydiant. O 1851 ymlaen, cafwyd diwydiant adeiladu llongau llewyrchus hefyd a lansiwyd dros 1,000 o longau wedi eu hadeiladu yn y porthladd. Ond gwrthododd Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain roi caniatâd i godi gwaith dur yn yr ardal ac oherwydd ffactorau byd-eang, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, caewyd y gwaith llongau. Roedd y ddau ffactor hyn yn dipyn o ergyd i Jarrow a'r teuluoedd bellach yn ddi-gyflog.

Flynyddoedd yn ddiweddarach nododd haneswyr fod Gorymdaith Jarrow wedi chwarae rhan allweddol yn newid ein hagwedd at dlodi a diwygio cymdeithasol. Gwelir yr Orymdaith, bellach, fel delwedd o'r 'werin dlawd yn arwain, a Llywodraeth yn dilyn': y gynffon yn arwain y ci, neu rym y werin.

CyfeiriadauGolygu