Gradd (addysg)
- Efallai eich bod yn chwilio am gradd academaidd.
Mesuriadau safonedig i farcio disgyblion ar eu gwaith yw graddau. Gall gael eu rhoi fel llythrennau'r wyddor (gan amlaf A, B, C, D, E, F), rhifau, disgrifiadau (megis ardderchog, da iawn, da, boddhaol, gwael), canrannau, neu mewn rhai gwledydd fel "cyfartaledd pwyntiau gradd". Weithiau mae disgyblion yn derbyn graddau ar wahân am ymdrech a chyrhaeddiad mewn eu hadroddiadau ysgol, ond rhoddir graddau am gyrhaeddiad yn unig mewn arholiadau ac ar gyfer cymwysterau.