Grogg
Cerflun bychan gwawdlunol wedi ei greu o glai yw Grogg. Mae Grogiaid yn cael eu cynhyrchu yn "Nheyrnas y Grogiaid" a gafodd ei sefydlu yn 1965 yn Nhrefforest ger Pontypridd gan deulu John Hughes (John Hughes World of Groggs). Mae Grogiaid yn cael eu mowldio a'u peintio gyda llaw.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/02/WELSH_FRONT_ROW.jpg/300px-WELSH_FRONT_ROW.jpg)
Fel arfer gwneir Grogiaid i bortreadu chwaraewyr rygbi Cymreig poblogaidd[1] ac weithiau enwogion gwledydd tramor. Erbyn heddiw mae'r enghreifftiau cynnar yn eitemau casgliadwy. Math o glai ydy "grog" a dyma pam y defnyddiwyd y gair.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Why Zeta Won't Be 'Groggy'". BBC News. 26 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 2008-05-05.