Groupama Aréna

stadiwm pêl-droed, Budapest, Hwngari

Groupama Aréna yw stadiwm newydd clwb pêl-droed mwyaf llwyddiannus Hwngari, Ferencvárosi T.C. (Ferencváros) sy'n chwarae yn yr Nemzeti Bajnokság, uwch gnghrair y wlad.[1] Mae capasiti torf yn 23,700 a dyma'r stadiwm ail fwyaf yn Budapest. Mae hefyd yn cynnal gemau ffeinal Magyar Kupa , gemau pêl-droed rhyngwladol gan gynnwys gêm Hwngari yn erbyn Cymru ar 11 Mehefin 2019. Mae Groupama ar dir hen Stadiwm Flórián Albert, cartref blaenorol y clwb, a ddymchwelwyd yn 2013.

Groupama Aréna
Mathstadiwm pêl-droed Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol2014 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 Awst 2014 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBudapest Edit this on Wikidata
GwladBaner Hwngari Hwngari
Cyfesurynnau47.4753°N 19.0961°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganLagardère Group Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethFerencvárosi T.C. Edit this on Wikidata
Groupama Aréna
Enw llawnGroupama Aréna
LleoliadBudapest, Hwngari
PerchennogGwladwriaeth Hwngari
GweithredwrLagardère Group
Corneli crachach34 Skybox
Eisteddleoedd22,000
Cynulleidfa;(uchafswm)22,060
Hwngari Hwngari 0–0 Rwmania Rwmania
Gemau rhagbrofol UEFA Euro 2016
Maint y maes105 m × 68 m (344 ft × 223 ft)
ArwynebeddCae gwyrdd
Cost codi
Tywarchen gyntaf27 Mawrth 2013
Adeiladwyd2013–14
Agorwyd10 Awst 2014
Costau adeiladuc. 13,5 biliwn HUF
(€40 miliwn)
Pensaer/iÁgnes Streit
Szabolcs Kormos
Main contractorsMarket Építő Zrt.
Tenants
Ferencváros (2014–)
Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari (2014–2019)
MOL Vidi FC (2018) (Gemau cystadleol Ewrop)
Website
www.groupamaarena.com

Hanes golygu

Ers 1911, roedd Ferencváros wedi chwarae eu gemau cartref yn Stadion Albert Flórián, a enwyd yn wreiddiol yn Üllői úti Stadion. Cafodd y stadiwm uwchraddiad mawr o 1971 i 1974, ac yn yr unfed ganrif ar hugain roedd y clwb yn dymuno i stadiwm ehangu. Gwrthodwyd ailadeiladu Stadion Albert Flórián am resymau ariannol, a chyflwynwyd cynlluniau i ddymchwel y stadiwm a'i ddisodli â strwythur cwbl newydd mewn cynhadledd i'r wasg yn Ebrill 2012 gan Gábor Kubatov, llywydd Ferencváros. Byddai'r capasiti arfaethedig o 22,600 yn ei wneud yr ail stadiwm mwyaf yn Hwngari.

Mae'r stadiwm newydd yn cael ei ailgyfeirio 90° ac yn nes at Gyáli út, gyda llain 10 cm islaw lefel y ddaear. Mae lletygarwch corfforaethol, bwyty, siop ac amgueddfa i gyd wedi'u cynllunio, ynghyd â chyfleusterau newid estynedig.[2]

Stadiwm Newydd golygu

 
Prif fynedfa Arena Groupama gyda cherflun Flórián Albert, (chwith) a cherflun Ferenc Springer (dde)
 
Golygfa o'r awyr
 
Cerflun yr eryr tu allan i'r stadiwm

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r stadiwm newyd ar 27 Mawrth 2013 ac ym mis Ebrill 2014, llofnododd Lagardère gontract gyda'r cwmni yswiriant Ffrengig, Groupama, i ddewis enw'r stadiwm a rheolaeth a marchnata'r arena newydd. Mae Lagardère, drwy is-gwmni SU Unlimited Stadium Solutions, yn gofalu am wasanaethau ymgynghori a marchnata mewn gwahanol stadia ledled y byd, gan gynnwys y Commerzbank-Arena yn Frankfurt a'r Volksparkstadion yn Hamburg yn ogystal â dwy stadiwm ym Mrasil. Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Lagardère Unlimted Stadium Solutions, Ulrik Ruhnau, "Mae Groupama yn chwaraewr chwaraeon busnes premiwm ac rydym yn falch o symud ymlaen gyda nhw yng ngham cyntaf meincnod Hwngari."[3]

Ar 2 Gorffennaf 2014 cyhoeddwyd mai enw'r stadiwm newydd fydd Groupama Arena.[4]

Ar 10 Awst 2014, chwaraeodd Ferencváros y gêm agoriadol yn erbyn Chelsea F.C..[5]

Defnydd Arall golygu

Heblaw am bêl-droed, gellir ffurfweddu Groupama i gynnal llawer o ddigwyddiadau eraill, yn enwedig cyngherddau mawr ond hefyd digwyddiadau preifat fel priodasau a chynadleddau. Mae'r cyngerdd cyntaf yn y stadiwm newydd wedi'i roi gan Depeche Mode ar 22 Mai 2017.

Trafnidiaeth golygu

Mae Arena Groupama wedi ei leoli yn y nawfed ardal (IX) Budapest, Hwngari.

Gwasanaeth Arosfa Llinell Pellter
Metropo Budapest     Népliget Azzurra 100 m 2 mumud
Tram Budapest Népliget 1 100 m 2 munud
Bws Budapest Népliget 103
901
914
914A
918
937
950
100 m 2 munud

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu