Gruffudd Parry
bardd (1916-2001)
Llenor Cymraeg oedd Gruffudd Parry (1916 – 2001). Ganed ef ym mhentref Carmel, Dyffryn Nantlle, yn fab i chwarelwr; brawd iddo oedd Syr Thomas Parry. Graddiodd ym Mhrifysgol Bangor, a threuliodd 37 mlynedd fel athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Heblaw ei lyfrau, ef fyddai'n ysgrifennu sgriptiau "Co Bach" ar gyfer Nosweithiau Llawen y BBC. Roedd yn un o sefydlwyr cymdeithas Cyfeillion Llŷn gydag R. S. Thomas.
Gruffudd Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1916 |
Bu farw | 2001 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Cyhoeddiadau
golygu- Adroddiadau'r Co Bach (1949)
- Crwydro Llŷn ac Eifionydd (1960)
- Blwyddyn Bentre (1975)
- Yn Ôl i Lŷn ac Eifionydd (1982)
- Straeon Rhes Ffrynt (1983)
- Mân Sôn (1989)
- Sychau yn Gleddyfau (1990)
- Y Corn Mawr a Nodau Eraill (1991)
- Cofio'n Ôl (2000)
- Y Co Bach a Hen Fodan a Wil (2002)
- Mi gana'-i gân: Cerddi a Baledi (2003)