Guacamole
Math o cyd-bryd yw guacamole sy'n wreiddiol o Fecsico. Mae'r gair "guacamole" yn dod o'r gair Nahuatleg (iaith yr Azteciaid), ahuacamolli, sy'n golygu "saws afocado", sy'n cynnwys y geiriau âhuacatl [aːˈwakat͡ɬ] ("afocado") a molli [ˈmolːi] ("saws", yn llythrennol "trwyth") . Mae'n cyd-bryd neu saws boblogaidd gyda bwydydd Mecsico ac yn gyffredin gyda bwyd Tex-Mex.[1] Arddelwyd y sillafiad Cymraeg gwacamoli gan fand Cymraeg o'r un enw o'r 1990au hwyr.
Math | dip, bwyd |
---|---|
Yn cynnwys | avocado, lime juice, coriander, jalapeño, halen |
Enw brodorol | guacamole |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd gan yr afocado arwyddocâd erotig i'r Azteciaid, i'r fath raddau fel na allai merched gasglu'r ffrwythau, gan eu bod yn symbol o'r ceilliau.[2][3] Yn ôl mytholeg cyn-Sbaenaidd, cynigiodd y duw Quetzalcoatl rysáit guacamole i'w bobl, ac fe ledaenodd ar hyd a lled tiriogaeth Mesoamerica.
Cyfansoddiad a defnydd
golyguMae Guacamole yn cynnwys mwydion stwnsh neu biwrî o afocados aeddfed, sudd lemwn neu leim, coriander wedi'i dorri'n fân, a halen. Mewn rhai ryseitiau, mae pupur, winwns, garlleg, pupur tsili neu domatos wedi'u torri'n fân yn cael eu hychwanegu at y guacamole. Mae'r saws gwyrdd yma'n cael ei fwyta gyda taquitos, creision tortilla neu i fynd gyda chig. Ceir paratoadau tebyg ar gyfer saladau afocado.
Mae'r ensym polyphenol oxidase (PPO) sydd i'w gael mewn afocados yn achosi guacamole i droi'n frown yn gyflym os caiff ei adael yn yr awyr agored. Gall ychwanegu sudd lemwn neu leim arafu'r broses hon. Y ffordd fwyaf effeithiol o'i warchod yw gorchuddio'r guacamole gyda haenen lynu i'w wneud yn aerglos. Gall y polyphenol oxidase gael ei anactifadu â thriniaeth pwysedd uchel. Gellir storio Guacamole wedi'i bacio dan wactod am sawl wythnos heb iddo frownio.[4]
Guacamole mewn diwylliant pop
golyguBu cynnydd yn y defnydd o guacamole yn Unol Daleithiau America wedi i'r llywodraeth codi'r gwaharddiad ar fewnforion afocados yn y 1990au. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd â thwf ym mhoblogaeth pobl o Fecsico ac America Ladin yn y wlad, a'u nerth pwrcasu.[5]
Ceir ebychiad boblogaidd yn Saesneg America, "holy moly guacamole" a ddefnyddir i ddynodi syndod neu braw ysgafn. Does gan yr idiom ddim oll i'w wneud â'r bwyd guacalmole heblaw bod "guacamole" yn odli gyda "holy".[6] Mae'r idiom wedi ei fabwysiadu gan gwmni Prydeinig sy'n cynhyrchu bwydydd guacamole.[7]
Yn 2012 enwebwyd y ffilm fer wedi'i hanimeiddio, Fresh Guacamole, am Oscar am ffilm animeiddiedig fer. Mae'n ffilm fer swreal am baratoi guacamole gan PES (Adam Pesapane).[8]
Gwacamoli - band Cymraeg
golyguCafwyd band pop Cymraeg o'r 1990au hwyr a 2000au cynnar o'r enw Gwacamoli, sef y sillafiad yn yr orgraff Gymraeg. Roedd y band o ardal Bangor a'r brif leisydd oedd Gethin Thomas. Bu iddynt ryddhau CD dan y teitl 'Topsy Turvy', ac EP o'r enw 'Clockwork'.[9] Roeddynt yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac, efallai eu trac fwyaf enwog oedd Plastig Ffantastig a ryddhawyd ar CD Amlgyfrannog rhaglen 'Ram Jam' ar BBC Radio Cymru yn 1997.[10]
Dolenni allanol
golygu- The Rise of Guacamole: Interesting Facts To Know gwefan Twisted Taco
- Guacamole Recipe // Chef Andy cyflwyniad ar wefan Youtube 'Chef Andy'
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dining Chicago → Eat this! Guacamole, a singing sauce, on its day". 2011-08-07. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 2023-01-24.
- ↑ "Diccionario de la lengua española | Real Academia Española". Cyrchwyd 13 Chwefror 2017.
- ↑ "Etimologías de Chile". Cyrchwyd 13 Chwefror 2017.
- ↑ , New York: Springer Science+Business Media, 2008, pp. 43-45, ISBN 978-0-387-75844-2
- ↑ Khazan, Olga (2015-01-31). "The Selling of the Avocado". The Atlantic. Cyrchwyd September 28, 2016.
- ↑ Dicks, Matthew (8 Rhagfyr 2020). "Holy Moly Guacamole". Gwefan Matthew Dicks.
- ↑ "Holy Moly". Gwefan Holy Moly. Cyrchwyd 4 Medi 2024.
- ↑ Top 50 Most-Viewed Indie Animated Shorts On Youtube|Cartoon Brew
- ↑ "Interview – GETH TOMOS (Gwacamoli / Diablo Rojo)". links2wales. 14 Tachwedd 2013.
- ↑ "Gwacamoli". Gwefan Apple Music. Cyrchwyd 4 Medi 2024.