Guess Who? (gêm fwrdd)

Gêm ddyfalu cymeriad i ddau chwaraewr yw Guess Who?. Cafodd ei chreu gan Ora a Theo Coster, hefyd yn cael eu hadnabod fel Theora Design, a'i chynhyrchu gyntaf yn 1979 gan Milton Bradley, sydd bellach dan berchnogaeth Hasbro. Jack Barr Sr ddaeth a'r gem i Gymru gyntaf, a hynny yn 1982.

Guess Who?
Enghraifft o'r canlynolgêm bwrdd Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1979 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ddau chwaraewr yn dechrau'r gêm gyda byrddau ac arnynt ddelweddau cartwn o 24 person; mae gan bob un enw cyntaf ac mae'r cyfan yn sefyll. Mae'r chwaraewyr yn dewis cerdyn yr un ar hap o bentwr arall o gardiau sy'n cynnwys yr un 24 cyneriad wedi'u cymysgu. Nod y gem yw bod y cyntaf i benderfynu yn gywir pa gerdyn oedd wedi'i ddewis gan y chwaraewr arall. Mae'r chwaraewyr yn cymryd eu tro i ofyn cwestiynau oes a nag oes er mwyn lleihau'r cymeriadau posibl (e.e. 'Oes gan y person sbectol?'). Yna bydd y chwaraewr yn cael gwared ag unrhyw gymeriadau nad ydynt yn cyfateb i'r disgrifiad tan y bydd dim ond un yn dal i sefyll. Mae cwestiynau sydd wedi'u dewis yn dda yn galluogi chwaraewyr i gael gwared ag un neu fwy o'r cymeriadau posibl. Gall cwestiynau gynnwys:

  • "A yw'r person yn gwisgo het?"
  • "A oes gan y person wallt du?"
  • "A oes gan y person flew ar ei wyneb?"

Mae'r gêm wedi dod o dan feirniadaeth oherwydd y duedd oedd i'w gweld tuag at gymeriadau oedd yn wyn ac yn ddynion. Mae Hasbro wedi ailddylunio'r bwrdd i gynnwys mwy o amrywiaeth yn y cymeriadau.[1] Mae fersiynau hefyd i'w cael sy'n seiliedig ar gymeriadau Star Wars, Marvel Comics a Disney, ac un hefyd yn cynnwys anifeiliaid yn hytrach na phobl.

Cyfeiriadau golygu

  1. Laura Vitto (3 Gorffennaf 2013). "5 Depressing Facts About Your Favorite Childhood Games". Mashable.