Emyn Cymraeg o darddiad Americanaidd yw "Gwahoddiad", a elwir hefyd yn "Arglwydd Dyma Fi" a chan ei linell gyntaf "Mi glywaf dyner lais".

Ysgrifennwyd y geiriau Saesneg a'r alaw ym 1872 gan yr Americanwr Lewis Hartsough (1828–1919), pregethwr Methodistaidd a chyfansoddwr caneuon gospel, yn ystod cyfarfod diwygiad yn Epworth, Iowa.[1] Y teitl Saesneg yw "I Am Coming, Lord", a'r llinell gyntaf yw "I hear Thy welcome voice".

Cyfeiriadau golygu

  1.  I Hear Thy Welcome Voice. hymntime.com (5 Ebrill, 2013). Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2015.