Gwaith Cannu Lleweni
Roedd Gwaith Cannu Lleweni yn weithdy cemegol anferth a adeiladwyd gan y Gwir Anrhydeddus Thomas Fitzmaurice ar ystâd Lleweni ym 1780. Roedd yn cannu llain frown a gynhyrchwyd gan wehyddion ar ei ystadau yn yr Iwerddon[1].
Cefndir
golyguYm 1776 gwerthwyd ystâd Lleweni i’r Anrhydeddus Thomas Fitzmaurice, bonheddwr Gwyddelig, a brawd i’r Brif Weinidog Prydeinig William Petty, 2il Iarll Shelburne.
Ym 1749 anogodd tad Fitzmaurice, Iarll cyntaf Shelburn, i nifer o bobl i ymsefydlu ar ei ystâd yn Ballymote i weithio fel mân ddeiliaid a gwehyddion[2].
Wedi etifeddu rhan o’r ystâd ar farwolaeth ei dad newidiodd Fitzmaurice cytundeb ei denantiaid. Roeddynt i barhau i wae, a’u cynnyrch fel gwehyddion byddai eu rhent. Eu tâl am eu gwaith byddai bwthyn yn gartref, digon o dir i dyfu tatws i’r teulu ac i dyfu gwair digonol i fagu un fuwch. Roedd Fitzmaurice yn credu byddai’i drefn yn rhoi i denant ‘’modd o gynhaliaeth i'w deulu heb ganiatáu i’w amser a’i meddyliau tynnu sylw o'i brif fusnes, o orfod poeni am fod yn ffermwr bychan ar fan daliad, yn ogystal â bod yn wehydd’’.
Gwaith cannu Lleweni
golyguYm 1780 adeiladodd Fitzmaurice ffatri gemegol ar ystâd Lleweni er mwyn cannu’r llain a gynhyrchwyd gan ei denantiaid Gwyddelig ar gost o £20,000. Ni fu’r fenter yn llwyddiant, a chaewyd a dymchwelwyd y gwaith cyn 1818[3].
An Gorta Mór
golyguFitzmaurice oedd y cyntaf i gyflwyno’r drefn o roi llain i dyfu tatws fel “tâl” i weithwyr gwledig yr Iwerddon, tra bod gweddill eu cynnyrch yn cael ei allforio i Loegr fel “rhent” at fudd masnachol y tirfeddiannwr. Pan fu’r cnwd tatws methu rhwng 1845 a 1849 bu oddeutu miliwn o bobl farw o newyn neu o glefydau a achoswyd gan newyn, a gorfodwyd nifer fawr o bobl yr ynys i ymfudo. Amcangyfrifir i boblogaeth Iwerddon ostwng o tua 20% hyd 25% rhwng 1845 a 1852 o ganlyniad[4].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "HISTORY OF LLEWENI HALL". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-30. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
- ↑ "A Topographical Dictionary of Ireland Samuel Lewis, tud 566". Cyrchwyd 20 Medi 2017.
- ↑ "Lleweney bleach works belonging to the late Honble. Thos. Fitzmaurice". British Museum. Cyrchwyd 20 Medi 2017.
- ↑ Woodham-Smith, Cecil (1991). The Great Hunger, 1845-49. Penguin.