Math o grefft yw gwaith saer neu waith coed sy'n ymdrin yn bennaf â'r gwaith o dorri, siapio a gosod deunyddiau adeiladu - pren yn bennaf - fel rhan o waith godi adeiladau, adeiladu llongau, codi pontydd pren, gosod ffurfwaith concrid, ayb. Yn draddodiadol, roedd seiri yn gweithio gyda choed a phren naturiol ac yn gwneud y gwaith garw o fframio, ond mae'r grefft bellach yn defnyddio deunyddiau eraill.[1] Erbyn hyn, mae'r gwaith cain o wneud dodrefn hefyd yn cael eu hystyried yn waith saer.

Gwaith saer
Enghraifft o'r canlynolskilled trade, crefft, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathwoodworking Edit this on Wikidata
Rhan oconstruction management Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Seiri coed wrth eu gwaith

Mae seiri fel arfer yn dysgu eu crefft trwy brentisiaeth ac yn dod yn gymwys trwy gwblhau profion. Mae hefyd modd dysgu'r grefft trwy brofiad gwaith yn ogystal â rhaglen hyfforddiant ffurfiol.

Pren yw un o'r deunyddiau adeiladu hynaf y ddynoliaeth. Gwellodd y gallu i siapio pren gyda datblygiadau technolegol yn oes y cerrig, oes yr efydd ac oes yr haearn. Mae casys pren a osodwyd ar ffynhonnau dwr a ddarganfuwyd yn nwyrain yr Almaen ymhlith y dystiolaeth archolegol hynaf o waith saer, yn dyddio yn ôl i'r cyfnod neolithig tua 7,000 o flynyddoedd yn ôl.[2]

Serch hynny, cymharol ychydig o wybodaeth sydd i'w chael am waith coed yn y cyfnod cynhanesyddol neu ganrifoedd mwy diweddar gan fod y wybodaeth a'r grefft yn cael ei throsglwyddo o berson i berson, heb ei chofnodi, hyd nes y dyseiswyd y wasg argraffu yn y 15g, ac yn y 18g a'r 19g y dechreuodd adeiladwyr gyhoeddi llyfrau canllaw a phatrwm.

Y testun pensaernïol hynaf sy'n hysbys yw llyfr Vitruvius, De architectura, sy'n trafod gwaith saer ymhlith pethau eraill.

Mae temlau yn Tsieina, megis Teml Nanchan a adeiladwyd yn 782, ac Eglwys Greensted, sydd â rhannau sy'n dyddio yn ôl i'r 11g, ac eglwysi 12g a 13g yn Norwy yn rhai o'r adeiladau pren hynaf yn y byd.

Yn yr 16g, gwelwyd mwy o felinau coed yn Ewrop.[3] Roedd archwilio tiroedd America yn cael ei yrru i raddau gan ddyhead am ragor o adnoddau, yn cynnwys coed, i'w defnyddio mewn llongau ac adeiladau yn Ewrop. Cyflwynodd datblygiadau'r Chwyldro Diwydiannol yn y 18g, a dyfeisiadau fel yr injan stêm, hoelion a'r llif gron newidiadau pellach yn nulliau adeiladu, a'r grefft o waith coed o ganlyniad.

Bu newidiadau pellach yn y 19g gyda datblygiad dosbarthiad a pheirianyddiaeth drydanol a arweiniodd at declynau a ddelir yn y llaw, sgriwiau a hoelion gwifrau. Daeth sement portland yn gyffredin yn yr 20g a cymerodd sylfeini concrid le siliau pren trymion. Daeth plastrfwrdd hefyd i gymryd lle plastr calch ar aisiau pren. Ymddangosodd mathau o goed oedd wedi'u peiriannu a'u trin yn gemegol hefyd.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Greg Roza, A Career as a Carpenter (New York, 2011)
  2. Sergio Prostak, "German Archaeologists Discover World's Oldest Wooden Wells", Sci News, 24 Rhagfyr 2012; adalwyd 24 Gorffennaf 2023
  3. Norman Davey, A History of Building Materials (London, 1961)
  4. Thomas C. Jester, Twentieth-century Building Materials: History and Conservation (Efrog Newydd, 1995)