Gwarchodfa fiosffer
Mae UNESCO yn cynnal rhestr o Warchodfeydd Biosffer y byd. Ardaloedd cadwraeth gyda chydnabyddiaeth ryngwladol ydynt, sydd i fod i ddangos perthynas gytbwys rhwng dyn a natur, hynny yw, hyrwyddo datblygu cynaliadwy.
Rhwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd
golyguYn 2012 roedd cyfanswm o 598 gwarchodfa fiosffer, mewn 117 gwlad dros y byd.[1].
Hanes
golyguSefydlwyd Rhaglen Dyn a'r Biosffer (MAB) UNESCO ym 1971, a arweiniodd at ddechrau dynodi gwarchodfeydd biosffer ym 1977. Yn y flynyddoedd a ddilynodd, cynyddodd y nifer o warchdfeydd biosffer yn gyflym.
Yn y 1990au cynnar, newidiwyd pwyslaid rhaglen MAB er mwyn hyrwyddo perthynas dyn a natur yn nhermau byw'n gynaladwy, creu incwm a lleihau tlodi. Mewn gwarchodfeydd biosffer, nid yw natur yn cael ei wahanu oddi wrth bobl, ond yn hytrach yn cael ei warchod wrth ei ddefnyddio. Maent felly yn lefydd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio - gan gynnwys ardaloedd gwyrdd ar gyrion dinasoedd mawrion hyd yn oed.
Ym 1995, cynhaliwyd ail Gynhadledd Gwarchodfeydd Biosffer y Byd yn Seville. Yno, cytunwyd ar ddiffiniad ffurfiol o amcanion a gweithdrefnau i'w dilyn wrth ddynodi gwarchodfeydd biosffer. Ers hynny, bu'n rhaid i nifer o warchodfeydd a dderbyniodd statws biosffer yn y 1970au a'r 1980au wedi gorfod unai ehangu er mwyn cydymffurfio â'r diffiniad newydd, neu golli'r statws.
Ardal UNESCO | Nifer y Gwarchodfeydd biosffer |
Nifer y Gwledydd |
---|---|---|
Affrica | 74 | 33 |
Y Taleithiau Arabaidd | 261 | 11 |
Asia a gwledydd y Môr Tawel | 107 | 28 |
Ewrop a Gogledd America | 261 | 33 |
America Ladin a'r Caribî | 109 | 20 |
1 Gan gynnwys Biosffer Gwledydd y Môr Canol, a rennir rhwng Moroco a Sbaen.
* Ffynhonnell: UNESCO, 2012[1]
Ffynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Directory of the World Network of Biosphere Reserves (WNBR)". United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization. -. Cyrchwyd 09 Awst 2012. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help)