Gwarchodfa Natur Corsydd Rainham
Gwarchodfa natur o 411 hectar yn Essex, Dwyrain Lloegr, Gwarchodfa Natur Corsydd Rainham (Saesneg: Rainham Marshes Nature Reserve). Saif nepell o bentref Purfleet ar lan ogleddol Afon Tafwys. Fe'i reolir gan elusen yr Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB).[1] Mae'n cynnig cynefin a lloches i amrywiaeth eang o anifeiliaid, adar, trychfilod a phlanhigion cynhenid. Mae'r safle'n cynnwys mannau hynafol iawn ac mae'n bosib gweld boncyff coeden o'r Oes Neolithig, 6,000 o flynyddoedd o oed.
Math | cors, gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Havering |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.49°N 0.23°E |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Yn llai hynafol, ac yn dyddio'n ôl i 1906, mae yma hefyd olion targedau saethu a adeiladwyd gan yr Adran Ryfel.[2]
Ym mynedfa'r warchodfa mae siop a chaffi modern a phwrpasol sydd, fel y warchodfa ei hun ar agor ar hyd y flwyddyn. Mae un llwybr yn eich tywys ar hyd ymylon y warchodfa a phob hyn a hyn mae gwylfâu'n cynnig mannau i aros a gwylio adar allan ar y corsydd, a mannau eraill sy'n cynnig adnoddau addysgiadol i blant ddysgu am natur a'r bywyd gwyllt lleol.
Mae cyfleusterau cyhoeddus ar gael mewn dwy safle o fewn y warchodfa ac mae'r holl safle'n addas ar gyfer defnydd o gadeiriau olwyn. Yr orsaf dren agosaf i Gorsydd Rainham yw Gorsaf Drenau Purfleet (o orsaf Fenchurch Street, Llundain, 49 munud), ac mae 20 munud o waith cerdded o'r orsaf i gyrraedd y warchodfa.
-
Y llyn yng Nghorsydd Rainham
-
Caffi a siop yr RSPB
-
Targedau saethu o'r gyn-Adran Ryfel, 1906
-
Boncyff coeden hynafol
-
Egroes yn sgleinio'n haul yr hydref
-
Cribau'r pannwr (Dipsacus fullonum)
-
Cynffon y gath (Typha latifolia)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Rainham Marshes" (yn Saesneg). RSPB. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2021.
- ↑ The Illustrated London News (yn Saesneg). Illustrated London News & Sketch Limited. 1999. t. 41.