Gwarchodfa Natur Glannau Dyfrdwy

Mae ‘’’ Gwarchodfa Natur Glannau Dyfrdwy’’’ rhwng Gorsaf pŵer Cei Connah ac Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint. Mae’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn safle RAMSAR ac yn Ardal o warchodaeth arbennig.[1]

Gwarchodfa Natur Glannau Dyfrdwy
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.237732°N 3.093445°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Map

Ffurfiwyd Cymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy ym 1973, ac ym 1974, gofynnodd y gymdeithas am ganiatâd i roi cuddfan yn ymyl yr afon. Mae’r warchodfa’n filltir o hyd ar lan orllewinol yr afon, ac mae 5 cuddfan erbyn hyn.

Yn ogystal â gwaith cynnal a chadw’r warchodfa, cynhelir cyfarfodydd ym ymwneud â natur yng Nghanolfan gomunedol Cei Connah, cynhelir cyfarfodydd grwpiau celf a ffotograffiaeth mewn canolfan astudiaethau maes ar y warchodfa, a chynhelir teithiau i lefydd eraill i weld adar.[2]

Rhai o rywogaethau'r warchodfa golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu